12.1 FPL/2023/349 – Cais llawn ar gyfer canopi annibynnol gyda tho drosodd ynghyd â lloches beic yn Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2023/343 – Cais ôl-weithredol ar gyfer yr estyniad i'r decin presennol ym Mharc Carafanau Golden Sunset, Benllech
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.3 FPL/2023/176 – Cais llawn i ddymchwel 2 adeilad allanol ynghyd â chodi 2 annedd fforddiadwy , 4 annedd marchnad agored ynghyd â chreu mynedfa gerbydau ar dir tu ôl i’r Swyddfa Post, Ffordd Caergybi, Gwalchmai.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
12.4 VAR/2023/67 – Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (02) (i ganiatáu mân ddiwygiadau i gynllun, dyluniad a chynnydd yn uchder yr unedau cymeradwy) cyfeirnod caniatâd cynllunio FPL/2021/266 (Cais llawn ar gyfer codi 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa gerbydau newydd, adeiladu ffordd newydd ar y safle ynghyd â thirlunio meddal a chaled) er mwyn caniatáu mân ddiwygiadau i gynllun, dyluniad a chynnydd yn uchder yr unedau cymeradwy ar dir yn Lôn Garreglwyd, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.