Penderfynwyd argymell y canlynol i’r Cyngor Llawn –
· Bod y Polisi Pryderon a Chwynion a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau yn cael eu tynnu o Gyfansoddiad y Cyngor a dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro i wneud unrhyw newidiadau o ganlyniad i’r penderfyniadau hyn.
· Bod y Polisi Pryderon a Chwynion, a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau (ynghyd â’r holl ddogfennau ategol perthnasol) ar gael yn rhwydd ar wefan y Cyngor.
· Ni fydd y Cyngor llawn bellach yn gyfrifol am gymeradwyo unrhyw newidiadau i’r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau, a byddant yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith; neu gan y Swyddog Monitro, o dan bwerau dirprwyedig, os nad yw’r newidiadau’n darparu dewis lleol, neu’n fân newidiadau. Bydd unrhyw newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contractau bob amser yn cael eu trafod â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.