Mater - penderfyniadau

Self-Assessment and Performance Reporting

23/09/2025 - Self-Assessment and Performance Reporting

Penderfynwyd gwneud yr argymhellion canlynol i’r Cyngor Llawn -

 

·      Ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau cyfansoddiadol sydd eu hangen er mwyn adlewyrchu uno’r Adroddiad Hunanasesu Blynyddol a’r Adroddiad Perfformiad (Llesiant) Blynyddol i fod yn un ddogfen unigol y cyfeirir ati fel yr Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant).

·      Ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau i’r cyfansoddiad er mwyn adlewyrchu y bydd yr adroddiad wedi’i gyfuno y cyfeirir ato uchod yn swyddogaeth i’r Pwyllgor Gwaith.

·      Ei fod yn awdurdodi’r Swyddog Monitro i wneud y newidiadau cyfansoddiadol sydd eu hangen er mwyn gweithredu paragraffau 1 a 2 uchod.