Penderfynwyd gwneud yr argymhellion canlynol i’r Cyngor Llawn -
· Cymeradwyo’r newid i Bolisi Gostyngiadau Dewisol at y Dreth Gyngor, er mwyn cyflwyno gostyngiad o 100% ar gyfer aelwydydd lle mae unigolyn sydd â salwch terfynol yn byw, yn unol ag Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
· Gweithredu’r polisi o 1 Ebrill 2026, gan sicrhau bod proses ymgeisio a dogfennau ategol (gan gynnwys ardystiad SR1) ar waith.
· Dirprwyo awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau weinyddu’r cynllun a gwneud unrhyw fân addasiadau gweithredol fydd angen eu gwneud.
· Monitro ac adolygu effaith y polisi ar ôl 12 mis a chyflwyno’r canfyddiadau i’r Pwyllgor Gwaith.