Mater - penderfyniadau

Gweddill y Ceisiadau

07/07/2026 - Gweddill y Ceisiadau

12.1  FPL/2026/7 – Cais llawn ar gyfer creu lagwn slyri ar dir yn Tyn Llan, Ffordd Penmynydd, Penmynydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2  FPL/2026/34 – Cais ôl-weithredol i gadw'r adeilad presennol fel llety gwyliau yn Ty Llwyd, Llanfaelog.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle un unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3  FPL/2026/59 –  Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw cynhwysydd storio yn Enochs, Ffordd Caergybi, Y Fali.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

 

12.4  FPL/2026/66 – Cais Llawn ar gyfer gosod ffenestri newydd, ynghyd â chladin newydd yn Ysgol Gyfun, Llangefni, Ffordd Cildwrn, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.5  RM/2026/1 – Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer creu lon mynedfa yn Peboc, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.6  VAR/2026/14 – Cais Adran 73 i amrywio amod (01) (Terfyn Amser) o gais VAR/2023/41  (Gwella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bwer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am dair blynedd arall ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.7 HHP/2026/72 – Cais llawn ar gyfer addasu ag ehangu yn Ardraeth, Lon Traeth Llydan, Rhosneigr.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle un unol â chais yr Aelod Lleol.