Mater - penderfyniadau

Gweddill y Ceisiadau

04/09/2026 - Gweddill y Ceisiadau

12.1 FPL/2026/85 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd dau uned fanwerthu ar y llawr gwaelod (Dosbarth Defnydd A1) i ddau uned breswyl fforddiadwy (Dosbarth Defnydd C3) ynghyd ag addasiadau allanol yn 31 a 32 Tyddyn To, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2 FPL/2026/135 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd o Ganolfan Ieuenctid ar y llawr gwaelod (Defnydd dosbarth D1) i Gaffi (Defnydd Dosbarth A3) a Man Chwarae Meddal (Defnydd Dosbarth D2), newid defnydd y Caffi ar y llawr cyntaf  (Defnydd Dosbarth A3) i fod yn rhan o'r ganolfan hamdden (Defnydd Dosbarth D2) ynghyd ag addasiadau allanol yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.3 FPL/2026/102 – Cais cynllunio rhannol ôl-weithredol ar gyfer symud yr adeilad modiwlaidd presennol oddi ar y safle, ynghyd â chodi adeilad modiwlaidd yn ei le ar gyfer defnydd swyddfa ac ystafell cyfarfodydd yng Nghanolfan Ailgylchu Domestig Gwalchmai, Ffordd Caergybi, Gwalchmai.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.4 FPL/2026/69 – Cais llawn ar gyfer lleoli arsyllfa seryrol ac adeilad addysgol yn ogystal â datblygiad cysylltiedig yn  Lleoliad: Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.