Mater - penderfyniadau

Cyflwyno Deisebau

11/10/2013 - Heddlu Gogledd Cymru

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Gomisiynydd yr Heddlu.

 

Rhoes y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sydd newydd ei benodi ar gyfer Gogledd Cymru, Mr. Winston Roddick, CB, QC, gyflwyniad mewn perthynas â’r gwahoddiad a roddodd i drigolion Gogledd Cymru i rannu eu teimladau ynghylch plismona a throsedd yn lleol.

 

Byddai’r sylwadau a fynegwyd yn cael eu defnyddio i ddatblygu Cynllun Heddlu a fyddai’n gosod cyfeiriad clir ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Ngogledd Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Roedd y Comisiynydd Heddlu eisiau i’r Cynllun hwn adlewyrchu anghenion y cyhoedd yng Ngogledd Cymru a cheisiodd farn y gymuned leol am y materion plismona a oedd yn eu pryderu.

 

Yn dilyn anerchiad y Comisiynydd, cafwyd sesiwn fer ar gyfer cwestiynau ac atebion yn arbennig felly mewn perthynas â’r problemau y daethpwyd ar eu traws ar yr Ynys.  Soniwyd hefyd am y ffaith y dylid ystyried codi plac coffa yn yr Orsaf Heddlu newydd yn Llangefni efallai er cof am y diweddar Dr.Tom Parry Jones o Borthaethwy, a ddyfeisiodd yr anadliedydd electronig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Comisiynydd am ei anerchiad ac ar ran y Cyngor, dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd ac roedd yn edrych ymlaen at ymweliadau pellach gan y Comisiynydd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.