Mater - penderfyniadau

Applications that will be Deferred

16/01/2014 - Applications that will be Deferred

6.1  14C135A – Cais llawn i godi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau a gosod pecyn triniaeth ar dir ger Glasfryn, Tyn Lôn.

 

PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rheswm a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2  34C553A – Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl gan gynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, isadeiledd priffyrdd a chysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD tynnu’r cais oddi ar y rhaglen hyd nes y bydd trafodaethau ac ymgynghoriadau wedi dod i ben a hyd nes y bydd modd cyflwyno argymhelliad.

 

6.3  37C187 - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw ar gyfer codi annedd, ynghyd â gwaith altro ar y fynedfa gyfredol ar dir ger Bryn Garth, Brynsiencyn.

 

PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rheswm a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.4  41C125B/EIA/RE – Cais llawn i godi 3 tyrbin gwynt 800kw-900kw gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 55m, rotor hyd at uchafswm o 52m ar ei draws ac uchder blaen unionsyth hyd at uchafswm o 81m, ynghyd â gwaith gwella i’r fynedfa bresenol i’r A5025 ynghyd â chodi 3 chabinet cadw offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rheswm a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.5  42C114A – Cais amlinellol i godi annedd amaethyddol ynghyd â gosod tanc septig yn Tai’n Coed, Pentraeth.

 

PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.6 44C294B – Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 20kw gydag uchder hwb hyd at 20.5m, rotor hyd at 13.1m ar ei draws ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at 27.1m ar dir yn Plas Newydd, Rhosybol.

 

PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.