7.1 HHP/2023/51 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdy presennol ynghyd â chodi anecs deulawr yn Lleoliad: Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech, Tyn Y Gongl
Penderfynwyd GWRTHOD y cais yn groes I argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd:-
· bod y cais yn or-ddatblygiad o’r safle;
· goredrych dros yr eiddo cyfagos;
· bod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru I’r ymgynghoriad yn anghywir gan ei fod yn dangos ar eu mapiau risg llifogydd bos yr annedd wedi’i leoli o fewn ardal risg llifogydd.
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).