12.1 11C554B – Cais llawn i addasu ac ehangu yn The Sail Loft, Porth Amlwch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 19C1136 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa yn Ysgol Gynradd Kingsland, Kingsland, Caergybi
PENDERFYNWYD gohirio’r cais fel bod modd cael trafodaethau ynghylch materion priffyrdd.
12.3 19C5R – Cais llawn diwygiedig ar gyfer adeiladu cofeb ffisegol ar dir i’r gorllewin o’r heneb i goffau’r Ymweliad Brenhinol yn 1958 yn Ffordd y Traeth, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.
12.4 19C792G – Cais llawn ar gyfer adeiladu storfa biniau yn Caffi’r Parc, Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.
12.5 19LPA997/CC – Cais llawn ar gyfer amnewid pedwar o’r ffenestri presennol i’r llawr cyntaf a’r ail lawr yn yr edrychiad blaen gyda ffenestri traddodiadol dalennog pren yn 5 Ffordd Stanley, Caerybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 20C277G/VAR – Cais i amrywio amod (13) (Goleuo) ar ganiatâd Cynllunio 20C277 yn Tai Hen, Rhosgoch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 34LPA998/CC – Cais llawn ar gyfer creu mynedfa newydd a man parcio yn 1 Isgraig, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.8 39C72E - Cais llawn ar gyfer codi storfa ac ystafell fitrwydd a chysgodfa yn Clwb Rygbi Porthaethwy, Porthaethwy
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.9 43C32D/DA – Cais am fater a gadwyd yn ôl ar gyfer gwedd yr adeilad(au) ynghyd â materion diwygiedig a gadwyd yn ôl ar gyfer gosodiad a graddfa yr adeilad(au) ar gyfer codi annedd a modurdy preifat ar dir ger To Gwyrdd, Pontrhydybont
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.10 46C38S/ECON – Cais llawn ar gyfer codi bwyty ar dir ger Sea Shanty House, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais a wnaed gan un o’r Aelodau Lleol.
12.11 46C397D – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir yn Bryniau, Lon Penrhyn Garw, Bae Treaddur
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.12 46C66J/FR – Cais llawn ar gyfer codi bloc o chwech o fflatiau a chwech o fodurdai gyda panelau solar PV ar eu tô ynghyd â gwellianau i’r fynedfa a pharcio yn safle’r hen Garej Progress, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.