11.1 14C232B/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (03) ar gais cynllunio cyfeirnod 14C232 (dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd) fel y gellir cyflwyno Tysysgrif Interim cyn i neb symud i mewn i’r annedd yn Rhyd Ysbardyn Uchaf, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 16C199 – Cais llawn i newid defnydd y Swyddfa Bost (dosbarth defnydd A1) yn annedd (dosbarth defnydd C3) yn y Swyddfa Bost, 38 Stryd Fawr, Bryngwran
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.3 37C174D - Cais llawn ar gyfer traciau fferm arfaethedig yn Tre-Ifan, Brynsiencyn
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.