Mater - penderfyniadau

Joint Highways Promotion Agreement with Horizon Nuclear Power

09/06/2014 - Opsiynau mewn perthynas â sicrhau gwelliannau i'r A5025 i hwyluso Cynigion Datblygu Horizon Nuclear Power

PENDERFYNWYD

·         I nodi’r trafodaethau hyd yn hyn gyda  Horizon Nuclear Power (HNP) mewn perthynas â’r gwaith gwella ac adeiladu posibl y bydd angen ei wneud i’r A5025 i hwyluso’r gwaith o adeiladu a gweithredu’r orsaf bŵer niwclear newydd arfaethedig yn Wylfa;

·         Awdurdodi Swyddogion i fwrw ymlaen â thrafodaethau gyda HNP i sefydlu’r dull mwyaf priodol i sicrhau cyflawni’r gwaith y mae angen ei wneud ar yr A5025 yn cynnwys gwaith ymchwilio mewn partneriaeth â HNP a thrafod a llunio fframwaith ar gyfer symud ymlaen gyda chytundeb.

·         Nodi y bydd unrhyw drefniadau cydweithio/partneriaeth a sefydlir dan yr uchod yn cael eu cyflwyno’n ôl i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried cyn eu cyflwyno  i’r Cyngor llawn.