Mater - penderfyniadau

Applications Arising

10/03/2015 - Applications Arising

 7.1  17C44M/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol dan ganiatád cynllunio 17C44J i amrwyio amod (10) fel y gellir cyflwyno manylion mewn perthynas â’r sgrîn ar gyfer y balconi cyn bod neb yn byw yn yr annedd yn 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2   31C419A – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 2 annedd ar dir yn Hafod y Bryn, Llanfairpwll

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3   34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ar gais yr Aelod Lleol oherwydd nad oedd y trigolion lleol wedi cael digon o rybudd bod y cais yn cael ei drafod yn y cyfarfod hwn.

 

7.4  41C66G/RE – Cais llawn ar gyfer codi un tyrbin gwynt hyd at 24.8m o uchder, rotor hyd at 19.2m a rei draws a hyd at 34.5m i flaen unionsuth y llafn, creu trac mynediad ynghyd â chodi cabinet storio offer ar dir yn Marchynys, Penmynydd

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig.