12.1 19LPA37B/CC – Cais llawn i ddymchwel rhan o adeilad presennol, addasu ac ehangu er mwyn creu ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu maes parcio newydd yn Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais er mwyn ymgynghori gydag aelodau lleol Ynys Cybi.
(Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb personol oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 12.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais).