6.1 24C300A/ECON - Creu llynnoedd ar gyfer defnydd pysgota a hamdden, codi siop a chaffi ac adeilad storfa ynghyd â ffyrdd mynediad a llecynnau parcio cysylltiedig ynghyd â gosod tanc septig newydd ar dir sy’n ffurfio rhan o Tyn Rhos Fawr, Dulas.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn gwerthfawrogi maint a chyd-destun y cynnig cyn penderfynu ar y cais.
6.2 25C28C – Cais llawn i ddymchwel y tŷ tafarn presennol a’r adeiladau cysylltiedig yn y Bull Inn, Llannerch-y-medd
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog hyd nes derbynnir ymateb / cyfarwyddyd gan CADW o ran rhestru'r adeilad.
6.3 34LPA1013/FR/EIA/CC – Cais llawn i adeiladu ffordd gyswllt a fydd yn cynnwys cylchfan newydd ar yr A5114, gwelliannau i’r biffordd rhwng yr A5114 a’r gylchfan gyfredol ar ben deheuol Ffordd y Stad Ddiwydiannol ac adeiladu ffordd newydd rhwng y pwynt hwn a Pharc Busnes Bryn Cefni ac o’r gogledd o Barc Busnes Bryn Cefni i Goleg Menai trwy’r B5420, Ffordd Penmynydd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar 0dir i’r dwyrain o Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn gwerthfawrogi maint a chyd-destun y cynnig cyn penderfynu ar y cais.
6.4 34C304F/1/ECON – Cais amlinellol ar gyfer estyniad i’r campws presennol yn cynnwys codi tri o unedau tri llawr gyda 250 o lecynnau parcio, uned ar wahân sy’n cynnwys campfa a stiwdio ffitrwydd gyda 60 o lecynnau parcio cysylltiedig ynghyd â chae pêl-droed pob tywydd a system ddraenio gynaliadwy gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir yn Coleg Menai, Llangefni.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn gwerthfawrogi maint a chyd-destun y cynnig cyn penderfynu ar y cais.
6.5 36C338 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.6 42C127B/RUR – Cais llawn ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth ar dir yn Fferm Ty Fry, Rhoscefnhir
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.