12.1 19C845H – Cais llawn i osod caban symudol ar y safle i’w ddefnyddio fel siop gwerthu nwyddau’r clwb pêl-droed yn Holyhead Hotspurs, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddoggyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 19C58C – Cais llawn i godi 1 bynglo a 2 annedd bâr ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddoggyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 39C18Q/1/VAR - Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) o ganiatâd cynllunio rhif 39C18H/DA (codi 21 o anheddau) fel y gellir newid y dyluniad ym Mhlot 22, Tŷ Mawr, Porthaethwy.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddoggyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 40C323B – Cais llawn ar gyfer codi annedd, gosod gwaith trin carthion ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir gyferbyn â Bryn Hyfryd, Brynrefail
Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodir.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, caiff y cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i'r Swyddogion ymateb i'r rheswm a roddwyd dros wrthod y cais.