Mater - penderfyniadau

Applications that will be Deferred

08/01/2016 - Applications that will be Deferred

6.1  42C127B/RUR – Cais llawn i godi annedd amaethyddol ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth breifat ar dir yn Fferm TŷFry, Rhoscefnhir.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2 44C250A – Cais amlinellol i godi annedd gan gynnwys manylion llawn am addasu’r fynedfa amaethyddol bresennol ar dir gyferbyn â’r Tai Cyngor, Four Crosses, Rhosgoch

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais oherwydd y bydd y mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym mis Chwefror.

 

6.3 45LPA605A/CC – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi 17 annedd newydd, dymchwel y bloc toiled presennol ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dwyryd, Niwbwrch

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.