Mater - penderfyniadau

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

07/12/2016 - Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1      23C339 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol yn ddwy annedd yn Nhyn Llidiart, Talwrn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2      48C197 Cais llawn i newid defnydd adeilad allanol yn annedd gan gynnwys balconi ynghyd â chreu gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Phenclegir, Gwalchmai.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.