Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/01/2023
Effective from: 24/01/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Cymeradwyo’r gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2023/24 o £172.438m;
· Cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig o 5% yn y Dreth Gyngor, a fydd yn golygu bod y gost i eiddo Band D yn £1,435.86;
· Cynnig yn ffurfiol i gynyddu’r premiwm ar ail gartrefi o 50% i 75%;
· Bod £1.758m yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn cydbwyso cyllideb refeniw 2023/2024.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/01/2023
Effective from: 24/01/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd, 2022 yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/01/2023
Effective from: 24/01/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i’r Arweinydd, mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Portffolio Datblygiad Economaidd a Phrosiectau Mawr a Chyllid, ar gyfer yr holl benderfyniadau a wneir gan y Pwyllgor Gwaith, a allai fod yn ofynnol mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar Ynys Môn (ar gyfer cyfnod y cyllid).
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/01/2023
Effective from: 24/01/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Bod y broses ymgysylltu ac ymgynghori wedi'i chynnal mor gynhwysfawr â phosibl yn ystod 2022;
· Bod swyddogion mewn cydweithrediad â’r Pwyllgor Gwaith yn datblygu Cynllun y Cyngor drafft ymhellach yn dilyn y broses ymgynghori yn barod i’w fabwysiadu yn ystod gwanwyn 2023.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/01/2023
Effective from: 24/01/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Chwefror 2023 i Medi 2023.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/01/2023
Effective from: 24/01/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Ehangu’r cyllid a gytunwyd yn flaenorol o dan gam 1 i ddarparu cymorth gyda chostau tai ar gyfer pobl sydd yn symud o lety dros dro drwy ddarparu grantiau i aelwydydd gydag anghenion tai (prynu a gosod lloriau a charpedi, costau dodrefnu, bwyd a dyledion rhent) lle nad ydynt yn deilwng am gymorth o dan y cynllun Taliad Dewisol at Gostau Tai – gweler paragraff 2.3.4.
· Cymeradwyo’r prosiectau cam 2 ychwanegol a nodir yn Atodiad 1, paragraff 4.
· Awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaeth Tai Cymunedol i ddod o hyd i partner lleol / sefydliad(au) addas a all barhau i ddarparu’r cymorth gyda chostau byw drwy’r cynlluniau a sefydlwyd gan y Cyngor tu hwnt i 31 Mawrth 2023, ac awdurdodi trosglwyddo unrhyw arian sydd dros ben i’r sefydliad a nodir, os na ddefnyddir y cyllid i gyd erbyn diwedd Mawrth 2023.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/01/2023
Effective from: 24/01/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion a nodwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/01/2023
Effective from: 24/01/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn a nodi adroddiad AGC ar yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o Wasanaethau Cymdeithasol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/01/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2023
Effective from: 11/01/2023
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle rhithiol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol a chadarnhawyd eu bod yn gywir.–
· 20 Rhagfyr, 2022
· 21 Rhagfyr, 2022