Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.1 FPL/2021/220 – Cais llawn i gadw’r adeilad parod am gyfnod dros dro hyd at fis Mawrth 2022 i gartrefu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau i’w defnyddio gan ddisgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.
12.2 FPL/2021/163 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ymestyn yr adeilad rhestredig ynghyd â gwaith tirlunio yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi grym i’r Swyddog weithredu wedi i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.
12.3 LBC/2021/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau ynghyd ag addasiadau mewnol ac allanol i’r adeilad yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2021/108 – Cais llawn ar gyfer troi’r adeilad allanol yn annedd fforddiadwy ynghyd a’i addasu a’i ymestyn yn Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi TAI3, nad oes defnydd cyflogaeth arall i’r adeilad ac nad yw’r addasiadau yn sylweddol.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais).
12.5 FPL/2021/106 – Cais llawn ar gyfer cadw cwt pren i ddal peiriant gwerthu llefrith (Dosbarth Defnydd A1) ynghyd â llain galed a lle parcio, addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith tirlunio cysylltiedig yn Neuadd, Cemaes
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
7.1 FPL/2021/144 – Cais llawn ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau er mwyn creu unedau ychwanegol yn Llys y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn adroddiad ysgrifenedig y swyddog.
7.2 FPL/2019/338 – Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o’r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y terfyn yn Cerrig, Penmon
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 HHP/2021/183 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu a chodi ystafell ardd yn Dirion Dir, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.4 FPL/2021/145 – Cais llawn ar gyfer gosod dau gwt bugail yn Rhosydd, Brynteg
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi TWR3 ac oherwydd bod y safle gerllaw nifer o safleoedd carafanau.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais).
7.5 HHP/2021/157 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn The Old Smithy, Marianglas
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.3, 12.4.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd safle rhithwir a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/10/2021
Effective from: 06/10/2021
Penderfyniad:
Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2021
Effective from: 27/09/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon gyda chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2021
Effective from: 27/09/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Bod y Cyngor yn rhoi system gadarn ar waith i fonitro a rheoli ei gyllideb refeniw ac elfen allweddol o’r system honno yw Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Mae’r cynllun yn amlinellu strategaeth cyllideb y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac mae’n nodi’r rhagdybiaethau fydd yn cael eu cynnwys yn y broses flynyddol o osod y gyllideb;
· Nodi cynnwys y cynllun, cymeradwyo’r rhagdybiaethau a wnaed ac ystyried sut i bontio’r bwlch cyllidol a nodir yn yr adroddiad fel rhan o’r broses ar gyfer gosod cyllideb refeniw 2022/23, fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2021
Effective from: 27/09/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi:-
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2021/22.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2021
Effective from: 27/09/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2021/22 yn Chwarter 1.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2021
Effective from: 27/09/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa hon yn ddibynnol ar gymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r golled incwm sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r coronafeirws;
· Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C;
· Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH;
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2021
Effective from: 27/09/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch1 2021/2022, a nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad;
· enwebu cynrychiolydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i fod yn aelod o’r Grŵp Llywio a sefydlwyd yn ddiweddar, sydd yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a WRAP Cymru, i archwilio materion yn ymwneud ag ailgylchu a gwastraff gwyrdd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2021
Effective from: 27/09/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a mis Mai 2022, fel y’i cyflwynwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2021
Effective from: 27/09/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith yn gywir:-
· 12 Gorffennaf, 2021
· 13 Medi, 2021 (Arbennig)