Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.

Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.

Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

01/09/2021 - Datganiad o Ddiddordeb ref: 2508    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.


01/09/2021 - Ymweliad Safleoedd ref: 2495    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 18 Awst 2021 yn gywir.


01/09/2021 - Gweddill y Ceisiadau ref: 2502    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

12.1  FPL/2021/144 – Cais llawn ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau er mwyn creu unedau ychwanegol yn Llys y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais gan Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.2  FPL/2021/145 – Cais llawn ar gyfer gosod 2 gwt bugail yn Rhosydd, Brynteg

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais gan Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.3  HHP/2021/183 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd â chodi ystafell ardd yn Dirion Deg, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.4  HHP/2021/157 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn The Old Smithy, Marianglas

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais Aelodau Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.


01/09/2021 - Development Proposals Submitted by Councillors and Officers ref: 2509    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


01/09/2021 - Departure Applications ref: 2501    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

 10.1  VAR/2021/48 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (06) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2020/76 (Codi annedd) er mwyn diwygio'r dyluniad ar dir ger Brynteg, Llansadwrn

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

10.2  VAR/2021/51 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (13) (cynlluniau wedi eu cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 36C328B (codi annedd a garej) er mwyn diwygio cynlluniau y garej ar dir ger Bodafon, Llangristiolus

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

10.3  VAR/2021/22 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (strwythurau amddiffyn rhag llifogydd) o ganiatâd cynllunio rhif 49C289K/VAR yn Cleifiog Fawr, Lôn Gorad, Y Fali

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a gynhwysir yn yr adroddiad.


01/09/2021 - Affordable Housing Applications ref: 2500    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


01/09/2021 - Ceisiadau Economaidd ref: 2499    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

 

8.1  FPL/2021/100 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned fusnes (Dosbarth Defnydd B1, B2 a B8) ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar Blot 1, Parc Diwydiannol Tregarnedd, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig.


01/09/2021 - Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ref: 2494    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021 fel rhai cywir.


01/09/2021 - Applications that will be Deferred ref: 2497    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


01/09/2021 - Siarad Cyhoeddus ref: 2496    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 7.4.


01/09/2021 - Materion Eraill ref: 2503    Er Penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

13.1  FPL/2021/198 – Cais llawn ar gyfer cadw’r strwythur presennol a pharhau â'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir yn Bryn Gollen Newydd, Llannerchymedd

 

PENDERFYNWYD gwrthod yr argymhelliad bod swyddogion yn gwrthod penderfynu ar y cais.

 

(Yn unol â’r penderfyniad, bydd adroddiad ar y cais gwreiddiol ynghyd ag argymhellion y swyddogion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor).

 


01/09/2021 - Applications Arising ref: 2498    Er Penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/09/2021

Effective from: 01/09/2021

Penderfyniad:

7.1  FPL/2019/251/EIA – Cais llawn ar gyfer codi uned ddofednod maes (cynhyrchu wyau) ynghyd â storfa dail, biniau bwyd a gwaith cysylltiedig yn Cae Mawr, Llannerchymedd

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  FPL/2019/338 – Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o'r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y terfyn yn Cerrig, Penmon

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan y barnwyd y byddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar ymddangosiad yr ardal sensitif hon a bod diffyg sicrwydd ynghylch sgil effaith datblygiad o’r fauth yn y dyfodol. Ystyrir bod y datblygiad yn groes i bolisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 a PS20 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais).

 

7.3   VAR/2021/27 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn diwygio’r man parcio i hepgor darparu trofwrdd yn Eglwys Crist, Rhosybol

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4  FPL/2020/215 - Cais llawn ar gyfer codi 23 o dai (yn cynnwys 4 o fflatiau) newydd ynghyd â chreu dwy fynedfa newydd a datblygiad cysylltiedig ar dir ger Lôn Lwyd, Pentraeth

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â chytundeb Adran 106 i sicrhau bod 100% o’r tai yn dai fforddiadwy a bod lle chwarae a llecyn cymunedol yn cael eu darparu fel a nodir yn yr adroddiad.

 

7.5  FPL/2021/111 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn safle cabannau gwyliau, gosod 30 adeilad caban gwyliau, codi adeilad derbynfa, gwaith peirianyddol i greu llyn, adeiladu lonydd preifat, adeiladu ardaloedd parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Fferm Penmynydd, Caergeiliog

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 


26/08/2021 - Rhaglen ref: 500000043    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/08/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/08/2021

Effective from: 26/08/2021

Penderfyniad: