Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.

Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.

Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

02/06/2021 - Materion Eraill ref: 2421    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 


02/06/2021 - Gweddill y Ceisiadau ref: 2424    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

12.1 HHP/2020/253 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau yn Plot H, Lleiniog, Penmon

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 FPL/2020/165 - Cais llawn ar gyfer trosi'r adeilad allanol i fod yn uned gwyliau yn Outbuilding 1, Lleiniog, Penmon

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3 VAR/2021/27 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd gydag adeiladu mynedfa cerbydau newydd) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu trofwrdd yn Christ Church, Rhosybol, Amlwch

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

12.4 FPL/2021/78 - Cais llawn ar gyfer creu ardal chwarae awyr agored ar dir ym Mharc Gwledig Morglawdd, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr

adroddiad a’r ychwanegiad o amod o ran cynllun tirlunio. 

12.5 FPL/2021/71 - Cais llawn ar gyfer cadw'r strwythur presennol a pharhau a'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd a gwaith cysylltiedig ar dir yn Bryn Gollen Newydd, Llannerchymedd

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.6 HHP/2021/35 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu  yn 54 Pennant, Llangefni

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 


02/06/2021 - Development Proposals Submitted by Councillors and Officers ref: 2420    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 


02/06/2021 - Datganiad o Ddiddordeb ref: 2425    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

Bu’r Cynghorwyr Eric Jones a Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol ac un oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.2 ar yr agenda.

 

Bu’r Cynghorydd Aled Morris Jones (ddim yn aelod o’r Pwyllgor) ddatgan diddordeb mewn perthynas â chais 12.3 ac fe eglurodd fod cwyn mewn cysylltiad â’r cais wedi ei dderbyn gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ond fod y cwyn bellach wedi ei gollwng. Cadarnhaodd ei fod wedi trafod y mater gyda’r Swyddog Monitro a'i fod, o dan yr amgylchiadau, wedi cael caniatâd i drafod y cais.


02/06/2021 - Affordable Housing Applications ref: 2419    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 


02/06/2021 - Ceisiadau Economaidd ref: 2418    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 


02/06/2021 - Applications Arising ref: 2422    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

7.1 FPL/2021/10 – Cais ôl weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y credir y byddai’r cynnig wedi cael effaith ar amwynderau’r eiddo cyfagos yn groes i’r polisi cynllunio PCYFF 2.

 

7.2 FPL/2020/98 - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw gwaith peirianneg o greu llain galed at ddefnydd storio amaethyddol a defnydd datblygiad a ganiateir fel safle cist car ynghyd â chadw’r addasiadau a waned i’r fynedfa i gerbydau ar dir yng Nghae Prytherch, Llanfairpwll

 

Penderfynwyd –

 

·         Cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod cadw gwaith peirianneg o greu llain galed ar y safle.

·         Caniatau cadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau o ran lledu’r fynedfa.

·         Gwrthod cadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau o ran gosod giât a ffens fetel ac argymell eu hamnewid am strwythur sy’n cyd-fynd â chae amaethyddol.

 

7.3 FPL/2021/38 - Cais llawn ar gyfer gosod 2 pod glampio ynghyd a chreu mynedfa newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir ger Gwel y Môr, Penrhosfeilw

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd na fyddai’r cynnig yn arwain at ddatblygiad llety gwyliau anaddas ac ymwthiol yng nghefn gwlad ac na fyddai yn cael effaith ar yr eiddo preswyl cyfagos (Bu’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE atal ei bleidlais).

 

 (Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais).

 


02/06/2021 - Applications that will be Deferred ref: 2417    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 


02/06/2021 - Ymweliad Safleoedd ref: 2416    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gynhaliwyd ar yr 19eg o Fai, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.


02/06/2021 - Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ref: 2415    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’u cynhaliwyd ar y 5ed o Fai, 2021 ac ar y 18fed o Fai, 2021 (ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd) ac fe gadarnhawyd eu bod yn gywir. 


02/06/2021 - Departure Applications ref: 2423    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/06/2021

Effective from: 02/06/2021

Penderfyniad:

10.1  FPL/2021/47- Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd gynt dan gais amlinellol rhif 34C716 a chais materion a gadwyd yn ôl rhif RM/2020/9 ar dir ger Pen Bryn, Rhosmeirch

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y

Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr

adroddiad ac yn amodol hefyd na chodir unrhyw faterion newydd cyn diwedd

y cyfnod cyhoeddusrwydd ar 23 Mehefin, 2021.

10.2 VAR/2021/14 - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (03) (Mannau pasio) (05) (Adar nythu) o ganiatâd cynllunio rhif 29C8J (Trosi adeilad allanol yn 2 uned gwyliau ac annedd) er mwyn cyflwyno manylion ar ôl i'r datblygiad gychwyn a newid amod (03) i'r angen i ddarparu 1 man pasio yn lle 2 man pasio yn Stabl Bach, Llanfaethlu

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y

Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr

adroddiad.