Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/07/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 19/07/2022
Effective from: 19/07/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2022 fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/07/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 19/07/2022
Effective from: 19/07/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Derbyn yr Asesiad a’r rhaglen wella gysylltiedig fel dogfen ddrafft sy’n cydnabod ac yn cyfathrebu sefyllfa bresennol y Cyngor Sir.
· Gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gyflwyno sylwadau ychwanegol yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf 2022, a
· Gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gyflwyno’r Asesiad i’r Cyngor Sir ar 13 Medi 2022.
· Bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiadau diweddaru chwarterol ar gynnydd yn erbyn y meysydd gwella a nodwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/07/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 19/07/2022
Effective from: 19/07/2022
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/07/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 19/07/2022
Effective from: 19/07/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo datblygu’r rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin ymhellach ar Ynys Môn, ac yn rhanbarthol, trwy fewnbwn swyddogion ac yn unol â’r egwyddorion a nodir yn yr adroddiad.
· Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Aelod Portffolio i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Ynys Môn i’w cynnwys yn y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol er mwyn gallu hawlio cyllid y rhaglen.
· Cefnogi’r cynnig i ofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol i gyflwyno’r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol i Lywodraeth y DU ac arwain y gwaith o wireddu’r rhaglen wedi hynny.
· Dirprwyo awdurdod i’r Aelodau Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd a Chyllid, mewn ymgynghoriad â’r Tîm Arweinyddiaeth, i gymeradwyo blaenoriaethau gwariant Cronfa Ffyniant Gyffredin y Cyngor ar gyfer 2022/23.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/07/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 19/07/2022
Effective from: 19/07/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Bod y cytundeb cydweithio cyfredol ar gyfer darparu’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cael ei ymestyn hyd at 31 Mawrth 2023.
· Bod y cytundeb cydweithio, ac felly’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023 a bod cytundeb mewn egwyddor i sefydlu Tîm Polisi Cynllunio newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Ynys Môn.
· Bod y Gwasanaeth Polisi Cynllunio newydd yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Ynys Môn.
· Bod trefniadau ar gyfer cefnogi a gwneud penderfyniadau ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd a materion polisi cynllunio perthnasol yn cael eu cyflwyno ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Ynys Môn.
· Bod hawl yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i gytuno ar drefniadau cydweithio gyda Gwynedd, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr a’r Aelod Portffolio, er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn parhau i gwrdd â’r gofynion statudol (ac unrhyw waith cysylltiedig) sy’n angenrheidiol ar gyfer monitro’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/07/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 19/07/2022
Effective from: 19/07/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r cynnydd yn y ffioedd ar gyfer gofal preswyl a nyrsio, fel y nodir isod:
Preswyl
£636.80 (Ffi Wreiddiol 2022/23)
£643.78 (Ffi Arfaethedig 2022/23)
£6.98 (Cynnydd o gymharu â Ffi Wreiddiol 2022/23)
Preswyl - Henoed bregus eu meddwl (EMI)
£707.17 (Ffi Wreiddiol 2022/23)
£772.29 (Ffi Arfaethedig 2022/23)
£65.12 (Cynnydd o gymharu â ffi wreiddiol 2022/23)
Nyrsio
£703.79* (Ffi Wreiddiol 2022/23)
£752.26* (Ffi Arfaethedig 2022/23)
£48.47 (Cynnydd o gymharu â ffi wreiddiol 2022/23)
Nyrsio – Henoed bregus eu meddwl (EMI)
£800.88* (Ffi Wreiddiol 2022/23)
£896.19* (Ffi Arfaethedig 2022/23)
£95.31 (Cynnydd o gymharu â ffi wreiddiol 2022/23)
(*nid yw’n cynnwys cyfraniad iechyd tuag at ofal Nyrsio, sef £179.97 ar hyn o bryd)
· Bod y newid yn y ffioedd yn dod yn weithredol o’r wythnos yn dechrau 17 Gorffennaf, 2022 er mwyn caniatáu amser i hysbysu cleientiaid a chartrefi am y newid a sicrhau fod y newid yn cyd-fynd â’r patrwm anfonebu.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/07/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 19/07/2022
Effective from: 19/07/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer 2021/22. (Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon llawn ar gyfer 2021/22 ar https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Cyngor/Cyllideb-y-Cyngor/Datganiad-or-cyfrifon.aspx).
· Nodi’r sefyllfa o ran y balansau cyffredinol, sef £12.050m, a chymeradwyo creu’r cronfeydd wrth gefn clustnodedig newydd a nodir yn Nhabl 4 yr adroddiad, a ddaw i gyfanswm o £9.371m.
· Nodi Atodiad 4 a chymeradwyo’r balans o £23.181m fel cyfanswm y cronfeydd wrth gefn clustnodedig ar gyfer 2021/22 (£14.079m yn 2020/21). Mae hyn £9.102m yn uwch na 2020/21 ac mae’n cynnwys £9.371m o gronfeydd wrth gefn newydd, fel yr argymhellir uchod, a newid o £0.269m yn y cronfeydd wrth gefn presennol (er bod hyn yn cynnwys symiau sydd wedi cynyddu a gostwng, sydd bron yn gwneud yn iawn am ei gilydd, yn y cronfeydd wrth gefn presennol).
· Nodi’r sefyllfa o ran balansau ysgolion, sef £7.827m.
· Nodi balans y CRT o £12.333m.
· Cymeradwyo’r cynnydd o £0.261m yng Nghronfeydd wrth Gefn Gwasanaethau i £1.625m, yn unol â Pholisi Cronfeydd wrth Gefn Gwasanaethau 2019/20 ac fel y nodir yn Atodiad 1, Tabl 3 yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/07/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 19/07/2022
Effective from: 19/07/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Awst 2022 i Fawrth 2023, fel y’i cyflwynwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/07/2022 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/07/2022
Effective from: 15/07/2022
Penderfyniad: