Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.

Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.

Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

09/12/2022 - Rhaglen ref: 2975    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2022 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 09/12/2022

Effective from: 09/12/2022

Penderfyniad:


07/12/2022 - Cofnodion ref: 2958    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

 Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y newidiadau a ganlyn:-

 

·           Cais 7.3 – Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre – Dylid dileu’r paragraff olaf yn natganiad Mr Peter J Hogan.

 

·           Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at y materion a gododd mewn perthynas â chais 12.3 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi gan nodi nad oedd ei sylwadau wedi eu hadlewyrchu yn y cofnodion yn cynnwys ei ddymuniad i ohirio’r cais, y datganiad amhriodol a wnaed gan y Swyddog Cynllunio wrth gyfeirio at gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2022, a’r ffaith bod tudalen 50 yn yr adroddiad yn cyfeirio at godi 22 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ond bod tudalen 51 yn cyfeirio at godi 23 tŷ fforddiadwy.


07/12/2022 - Materion Eraill ref: 2968    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


07/12/2022 - Gweddill y Ceisiadau ref: 2967    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

12.1  FPL/2022/60 – Cais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref Street, Niwbwrch

 

Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.

 

12.2  VAR/2022/69 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynllun sydd wedi ei ganiatáu) a (08) (Draenio dŵr wyneb) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/7 (Codi ysgol gynradd newydd) er mwyn caniatáu i ddŵr wyneb ddraenio i un pwynt cyswllt y garthffos gyhoeddus yn Bryn Meurig, Llangefni

 

Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.

 

12.3  VAR/2022/52 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a ganiatawyd), (03)(Oriau Gweithredu), (04)(Oriau Dosbarthu) a (05)(Oriau Gwirio Gwesteion) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/317 (Cais llawn i ddymchwel adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod a chyfleuster chwaraeon dŵr ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig) er mwyn caniatáu amodau gweithredu/agor diwygiedig yn Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  Cais llawn ar gyfer adeiladu 10 uned llety ar gyfer gwesteion priodas ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mharc Gwledig Henblas, Bethel, Bodorgan

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  FPL/2022/195 – Cais  llawn ar gyfer codi tyrbin gwynt 13.5m o uchder, 5kW yn Pendref, Llanfairynghornwy

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

 

12.6  FPL/2022/215 - Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i storio peiriannau ynghyd â chadw'r gwaith ail wynebu yn Capel Bach, Rhosybol

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

 


07/12/2022 - Development Proposals Submitted by Councillors and Officers ref: 2966    Er Penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

11.1  HHP/2022/239 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu ac ehangu yn 10 Lôn y Wylan, Llanfairpwll

 

Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.

 


07/12/2022 - Departure Applications ref: 2965    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


07/12/2022 - Affordable Housing Applications ref: 2964    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


07/12/2022 - Ceisiadau Economaidd ref: 2963    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


07/12/2022 - Ymweliad Safleoedd ref: 2959    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·           Cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2022.

·           Cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd, 2022.


07/12/2022 - Applications that will be Deferred ref: 2961    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


07/12/2022 - Siarad Cyhoeddus ref: 2960    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.3, 7.5, 7.6, 7.8, 12.3. a 12.4.


07/12/2022 - Applications Arising ref: 2962    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/12/2022

Effective from: 07/12/2022

Penderfyniad:

7.1  HHP/2022/171 –  Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu hefo balconis Juliet yn Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

7.2  DIS/2022/63 –  Cais i ryddhau amod (05)(tirwedd) (08)(arwyddion) (16)(asesiad risg lliniaru) o ganiatâd cynllunio FPL/2021/337 (cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.3  FPL/2022/53 - Cais llawn ar gyfer codi 22 annedd marchnad agored a 1 annedd fforddiadwy, addasu'r fynedfa bresennol, creu ffordd fynediad fewnol yn ogystal â gwaith cysylltiedig ar dir ger Cae Braenar, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd â chytundeb cyfreithiol 161 bod 1 annedd fforddiadwy yn cael ei godi a chyfraniad o £110,313 i Ysgol Llanfawr.

 

7.4  HHP/2022/46 –  Cais llawn ar gyfer dymchwel, addasu ac ehangu yn Tan yr Allt Bach, Llanddona

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

7.5  VAR/2022/41 -  Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) (draenio dŵr wyneb), (13) (cymeradwyo lle i barcio cerbydau a cheir), a (14) (yn unol â chynlluniau i'w cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 46C188G (ailddatblygu'r safle presennol ynghyd â chodi hyd at 6 o unedau) er mwyn caniatáu cyflwyno cynllun draenio dŵr wyneb, man troi cerbydau a maes parcio, ynghyd ag yr ail-leoli a dyluniad diwygiedig yr anheddau arfaethedig yn 1  Clos Dŵr Glas, Bae Trearddur

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

7.6  HHP/2022/230 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Dinas Bach, 5 Fron Estate, Aberffraw

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd credid bod y cynnig yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 2.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

7.7  FPL/2022/189 – : Cais ôl-weithredol i gadw defnydd fflat yn Bilash, Dew Street, Porthaethwy

 

Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.

 

7.8  FPL/2022/172 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd, addasu ac ehangu adeilad allanol presennol i fod yn annedd menter wledig ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth newydd yn Eirianallt Goch Farm, Carmel, Llannerchymedd

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y credid ei fod yn cydymffurfio â’r polisi gan fod yr annedd amaethyddol wedi’i cholli o ganlyniad i ysgariad; gan fod y cais yn cefnogi teulu ffermio lleol; a chan ei fod wedi’i leoli ger y fferm sy’n dystiolaeth o ddilyswyd y cynnig. 

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 


29/11/2022 - Cofnodion ref: 2948    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2022 yn gywir.

 


29/11/2022 - Common Allocations Policy for Social Housing ref: 2955    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·                Cymeradwyo newid rhannol dros dro yn y Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer tai mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr unigolion sy'n cyflwyno'n ddigartref sydd wedi'u lleoli neu mewn perygl o gael eu gosod mewn llety brys/dros dro.

·                Bod dyraniadau a wneir yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer aelwydydd digartref yn cael eu cymeradwyo gan y Rheolwr Tîm Opsiynau Tai gan na fyddai'r gosodiadau hyn yn cadw at y Polisi Gosod Cyffredin.

 


29/11/2022 - Disabled Facilities Grant - Change in Policy ref: 2956    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo dileu’r prawf modd ariannol ar gyfer gwaith bach a chanolig hyd at £10,000 o’r broses ymgeisio am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

 


29/11/2022 - The Council Tax Base for 2023/24 ref: 2957    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

           Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 - bydd hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru wrth gyfrifo'r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2023/24, sef 31,272.36 (Rhan E6 o Atodiad A i'r adroddiad).

           Cymeradwyo’r cyfrifiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 i bwrpas gosod Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer yr ardal gyfan a rhannau o’r ardal am y flwyddyn 2023/24 (Rhan E5 o Atodiad A o’r adroddiad)

           Bod, yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995 (OS 19956/2561) fel y'i diwygiwyd gan OS1999/2935 a'r Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) a Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiwyd) 2004, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) (Diwygiwyd) 2016, y symiau a gyfrifir gan Gyngor Sir Ynys Môn fel ei dreth sylfaen ar gyfer y flwyddyn 2023/24 fydd 32,819.56 ac ar gyfer y rhannau o'r ardal fel y'u rhestrir yn y tabl o dan argymhelliad 3 o'r adroddiad.

 


29/11/2022 - Housing Revenue Account Budget Monitoring - Quarter 2, 2022/23 ref: 2954    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi'r sefyllfa a nodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2022/23.

·      Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2022/23.

 


29/11/2022 - Capital Budget Monitoring - Quarter 2, 2022/23 ref: 2953    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2022/23 yn Chwarter 2.

·      Cymeradwyo'r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer Melin Llynnon yn unol ag adran 4.2 o'r adroddiad.

 


29/11/2022 - Revenue Budget Monitoring - Quarter 2, 2022/23 ref: 2952    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd–

 

·                Nodi'r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro disgwyliedig ar gyfer 2022/23.

·                Nodi'r crynodeb o'r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23 fel y manylir yn Atodiad C.

·                Nodi monitro costau asiantaeth ac ymgynghori ar gyfer 2022/23 yn Atodiadau CH a D.

·                Cymeradwyo trosglwyddo'r tanwariant o £100k ar gyfer cynyddu band eang mewn ysgolion i gronfa wrth gefn a glustnodwyd i ariannu'r gwelliannau band eang yn 2023/24 sydd wedi'u gohirio oherwydd cwblhau prosesau caffael priodol.

 


29/11/2022 - Scorecard Monitoring Report - Quarter 2, 2022/23 ref: 2950    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad monitro Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch2 2022/23 ynghyd â’r mesur lliniaru a’i amlinellwyd.

 


29/11/2022 - The Executive's Forward Work Programme ref: 2949    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Rhagfyr, 2022 i Orffennaf, 2023 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 


29/11/2022 - Annual Treasury Management Review for 2021/22 ref: 2951    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022

Effective from: 29/11/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·                Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad yn parhau yn rai dros dro hyd nes bod yr archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo; adroddir fel bo'n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol i'r ffigurau a gynhwysir yn yr adroddiad.

·                Nodi dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro 2021/22 yn yr adroddiad.

·                Anfon yr Adroddiad Adolygu Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2021/22 ymlaen i'r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.