Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2023 yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell bod y Cyngor yn cytuno i newid y Cyfansoddiad er mwyn:
· Caniatáu i un neu ragor o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith;
· Caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd; a
· Nodi’r trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd
(a) yn unol â’r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad,
a
(b) unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.
· Os bydd unrhyw newidiadau i’r trefniadau rhannu swydd a / neu nifer yr unigolion sy’n derbyn cyflog uwch o ganlyniad i’r trefniadau rhannu swydd, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn mynd ati i roi cyhoeddusrwydd i hynny ar unwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2022/23 yn ystod Chwarter 3.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2022/23.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2022/23.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd cefnogi’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24 a’i hargymell i’r Cyngor Llawn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Gytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor, fel y dangosir yn Adran 4 Atodiad 1 ac Atodiad 2 yr adroddiad.
· Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai'r Cyngor gadw o leiaf £8.6m o falansau cyffredinol.
· Nodi sylwadau’r Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed, fel y nodir yn Adran 5 Atodiad 1.
· Argymell i'r Cyngor llawn gyllideb net o £174.569m i'r Cyngor Sir a chynnydd, yn sgil hynny, o 5.00% (£68.40 – Band D) yn y Dreth Gyngor, gan nodi y câi penderfyniad ffurfiol, yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a’r Cynghorau Cymuned, ei gyflwyno i'r Cyngor 9 Mawrth 2023.
· Y bydd unrhyw wahaniaethau rhwng y setliad amodol a'r setliad terfynol yn cael eu haddasu drwy ddefnyddio'r arian wrth gefn cyffredinol sydd wedi ei gynnwys yng nghyllideb 2023/24, neu drwy gyfrannu i / o gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys.
· Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno'r cynigion terfynol i'r Cyngor;
· Cytuno y byddir yn gallu tynnu cyllid o'r gyllideb wrth gefn gyffredinol yn sgil unrhyw bwysau, na chawsant eu rhagweld, ar gyllidebau seiliedig ar alw yn ystod y flwyddyn ariannol.
· Gofyn i'r Cyngor awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o'r balansau cyffredinol os yw'r gyllideb wrth gefn gyffredinol wedi'i hymrwymo'n llawn yn ystod y flwyddyn.
· Dirprwyo i'r Swyddog Adran 151 yr hawl i ryddhau cyllid o hyd at £50k o'r gronfa wrth gefn gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni ddylid caniatáu unrhyw eitem dros £50k heb ganiatâd o flaen llaw y Pwyllgor Gwaith.
· Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn cynyddu i 75%, ac yn aros ar 100% ar gyfer cartrefi gwag.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2023/24, fel yr amlinellir yn y llyfryn atodol i’r adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd codi am gost lawn y gwasanaeth, sef £863.30 yr wythnos
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell bod Cyngor Sir Ynys Môn yn cymeradwyo Cynllun drafft y Cyngor ar gyfer 2023-2028 yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth, 2023, yn amodol ar flaenoriaethu’r Iaith Gymraeg yn y rhestr o flaenoriaethau strategol yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y
Rhaglen Gyfalaf ganlynol ar gyfer 2023/24:
£’000
Cynlluniau 2022/23 a
Ddygwyd Ymlaen 12,373
Adnewyddu / Amnewid Asedau 5,682
Prosiectau Cyfalaf Un Tro Newydd 386
Ysgolion yr 21ain Ganrif 5,964
Cyfrif Refeniw Tai 13,557
Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf a
Argymhellir 2023/24 37,962
Cyllidir Drwy:
Grant Cyfalaf Cyffredinol 3,410
Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol 2,158
Benthyca â Chefnogaeth Ysgolion
21ain Ganrif 919
Benthyca Digefnogaeth Ysgolion
Yr 21ain Ganrif 2,797
Arian Wrth Gefn y CRT a’r Gwarged
yn ystod y flwyddyn 9,221
Benthyca Digefnogaeth CRT 0
Derbyniadau Cyfalaf 500
Grantiau Allanol 6,584
Cyllid 2022/23 a Ddygwyd Ymlaen 12,373
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 37,962
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
· Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal, fel yr amlinellir yn Nhabl A yr adroddiad, sef :-
Haen 1 Analog – bydd pawb yn talu £55.90 y chwarter;
Haen 2 a 3 Analog – bydd pawb yn talu £111.41 y chwarter;
Haen 1 Digidol – bydd pawb yn talu £71.50 y chwarter;
Haen 2 a 3 Digidol – bydd pawb yn talu £142.48 y chwarter.
· Y Taliadau Teleofal Blynyddol, fel yr amlinellir yn Nhabl B, sef:-
Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £133.18;
Gwasanaethau’n unig £86.08;
Costau gosod unwaith ac am byth £53.25.
· Cyfradd o £14.50 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol.
· Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellwyd ym mharagraff 5.
· Cynnydd o 10.57% i £41.55 yn y ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol.
· Cynnydd o £1.55 yr awr mewn ffioedd Gofal Cartref i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd.
· Taliadau am Brydau mewn Gwasanaethau Dydd fel yr amlinellir yn Nhabl C, sef :-
Prydau mewn Gwasanaethau Dydd i oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) - £7.25;
Byrbryd ganol dydd mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - £3.05;
Lluniaeth arall (te / coffi / teisen) mewn Gwasanaethau Dydd - £1.70
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 ac i anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb sylwadau pellach.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Argymell i’r Cyngor llawn gymeradwyo’r newid yn y terfyn gwrthbarti i awdurdodau lleol eraill yn unol ag adain 5.3 yr adroddiad.
· Nodi cynnwys yr adroddiad ac anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2022/23.
· Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23 y manylir arnynt yn Atodiad C.
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaethau ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2022/23 yn Atodiadau CH, D a DD.
· Argymell i Gyngor Sir Ynys Môn y dylai’r Cyngor llawn gymeradwyo symud £1.074m o falansau cyffredinol Cronfa’r Cyngor i gyllideb datganoledig ysgolion, i gwrdd â chostau cyflogau sy’n uwch nag a ganiatawyd yn wreiddiol yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2022/23.
· Cymeradwyo trosglwyddo’r tanwariant net ar ddigartrefedd ac atal digartrefedd, sef amcangyfrif o £260k, i gronfa wrth gefn glustnodedig ar gyfer digartrefedd ac atal digartrefedd mewn blynyddoedd i ddod. Y rheswm am y tanwariant yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol o £273k yn y grant Neb Heb Help.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2023
Effective from: 02/03/2023
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau canlynol i’r Polisi Darpariaeth Refeniw Isaf am y flwyddyn ariannol gyfredol 2022/23 a thu hwnt –
· Nodi’r adroddiad yn Atodiad 1 ac Adroddiad Grŵp Link Asset sydd wedi’i atodi yn Atodiad 3 ar yr opsiynau Darpariaeth Refeniw Isaf (MRP).
· Newid tâl MRP y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar fenthyciadau gyda chefnogaeth gofyniad cyllido cyfalaf (CFR) o 2% o CFR y CRT i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 60 mlynedd ar gyfradd llog gyfartaledig y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 1ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.
· Newid MRP y CRT ar fenthyciadau digefnogaeth CFR o 2% CFR y CRT i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 60 mlynedd ar gyfradd llog gyfartaledig y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 2ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.
· Newid MRP Cronfa’r Cyngor ar fenthyciadau gyda chefnogaeth CFR o ddull Oes Ased – Rhandaliad Cyfartal i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 46 mlynedd ar gyfradd llog arferol y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 3ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.
· Newid MRP Cronfa’r Cyngor ar fenthyciadau digefnogaeth CFR o ddull Oes Ased – Rhandaliad Cyfartal i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 27.5 mlynedd ar gyfradd llog gyfartaledig y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau o 1 Ebrill 2022.
· Cymeradwyo’r Datganiad Polisi MRP diwygiedig ar gyfer 2022/23 a thu hwnt yn Atodiad 2, sy’n seiliedig ar yr opsiynau yn y pwyntiau bwled uchod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
13.1 DEM/2023/2 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Pencraig, Llangefni, LL77 7LD
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
13.2 DEM/2023/3 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Pencraig, Llangefni
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
13.3 DEM/2023/4 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Maes Hyfryd, Llangefni
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
13.4 DEM/2023/5 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel 28 garejys yn Bro Tudur, Llangefni
Nodwyd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
12.1 MAO/2022/27 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan caniatád cynllunio FPL/2021/337 er mwyn diwygio y cynlluniau a gymeradwywyd yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.2 ADV/2023/1 – Cais ar gyfer amnewid arwydd dehongli yn Tŵr Gwylio Amlwch, Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.3 ADV/2023/2 – Cais i godi arwydd dehongli yn Maes Parcio Uchaf, Lôn y Cei Uchaf, Porth Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.4 ADV/2023/3 – Cais ar gyfer amnewid arwydd dehongli yn Maes Parcio'r Prif Sgwâr , Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.5 ADV/2023/4 - Cais i leoli 2 arwydd heb eu goleuo yn Mynydd Parys, Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
12.6 HHP/2022/342 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle corfforol am y rhesymau a roddwyd.
12.7 HHP/2022/244 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdy presennol ynghyd a chodi anecs 2 lawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech
Cais wedi’i dynnu’n ôl.
12.8 FPL/2021/231 - Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro Hawl Tramwy Cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar Dîr i'r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairwll
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.
12.9 TPO/2022/24 - Cais i wneud gwaith ar goed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed yn Parc Twr, Llanfairpwll
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
11.1 FPL/2022/128 - Cais llawn ar gyfer estyniad i'r adeilad presennol yn ogystal a dymchwel y gweithdy presennol a chodi gweithdy newydd yn Safle 5, Stad Ddiwydianol Amlwch, Amlwch
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.1 FPL/2022/60 – Cais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig a'r safle cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.
7.2 FPL/2022/173 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i leoli 32 caban gwyliau, gosod adeilad derbynfa, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu ffyrdd newydd ar y safle a mannau parcio ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Lôn Penmynydd, Llangefni
Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd fod y cais yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 3ac nad oedd yr adroddiad ecoleg wedi cyfeirio at yr effaith ar gynefin y Wiwer Goch yn yr ardal.
Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig I’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi amser i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
6.1 S106/2020/3 – Cyflwyno ‘Cynllun Iaith Gymraeg Parc Arfordirol Penrhos’ o dan Adran 1 (Cynllun Iaith Gymraeg) o atodlen 12 o’r Cytundeb 106 a gwblhawyd mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON a chyflwyniad Gweithred Amrywio i amrywio darpariaethau canlynol y cytundeb cyfreithiol hwn: paragraffau 2.1.1. Atodlen 8 (Manyleb Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur Cae Glas), Atodiad 2 Bond Bwrdd Canolfan Ymwelwyr Penrhos (yn cynnwys Toiledau Canolfan Ymwelwyr Penrhos) a’u cynnal a chadw, paragraffau 1.1 a 1.2 Atodlen 12 (Cynllun Iaith Gymraeg) a disodliad Cynllun 2 Lluniad Tir Penrhos – Cynllun 2 cyferinod llunio PL1114.VW008 /Rev 03 dyddiedig 03/03/2016 yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhellion y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.
6.2 COMP/2021/1 – Cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol i ryddhau adrannau; Atodlen 8, Adran 1, Cymal 1.1; Strategaeth Parcio Ceir a Mynediad Cyhoeddus – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Cymal 12.1; Cynllun Coetir Hynafol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 15, Cymal 15.1; Cynllun Cysylltiadau Gwyrdd – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 17, Cymal 17.1; Cynllun Rheoli SoDdGA – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.1; Arolwg Ecolegol a Chynllun Monitro – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 19, Cymal 19.4; Archwiliad Cydymffurfiaeth Ecolegol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 20, Cymal 20.1 – Cynllun Rheoli Coed Presennol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.1 – Penodi Gwasanaeth Warden / Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Warden – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.2 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Goblygiadau diogelwch / Asesiad monitro effaith Cysylltiadau Gwyrdd a’r defnydd ohonynt – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 8, Adran 21, Cymal 21.3 – Gwasanaeth Warden, AHNE - Ymrwymiad Adroddiad Blynyddol o Effaith – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 9, Adran 3, Cymal 3.1; Cynllun Fesul Cyfnod Pentref Hamdden Penrhos – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos. Atodlen 11, Adran 1, Cymal 1.1; Cynllun Llafur Lleol – Cyfnod Parc Arfordirol Penrhos o oblygiadau’r cytundeb Adran 106 ynghlwm i ganiatâd cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhellion y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.
6.3 46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grwp Cyswllt Cymunedol er mwyn cydymffurfio gyda Thelerau Cytundeb a nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gyfeirnod cynllunio 46C427K/TR/EIA/ECON yn
Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhellion y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
Cafwyd Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas a cheisiadau 7.2 a 12.8.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
Cyflwynywd cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2023.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
Bu’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.8.
Bu’r Cynghorydd John Ifan ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1.
Bu’r cynghorydd Ken Taylor ddatgan diddordeb personol mewn perthynas â chais 12.8.