Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/10/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/10/2018
Effective from: 15/10/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Mabwysiadu Strategaeth Addysg Ynys Môn – Moderneiddio Ysgolion (Diweddariad 2018) fydd yn weithredol o 15 Hydref, 2018 ymlaen.
· Bod Swyddogion yn cychwyn y broses o ymgynghori yn ardaloedd Band “B” dros y 12 mis nesaf.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/10/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/10/2018
Effective from: 15/10/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd cytuno ac argymell –
· Bod fersiwn derfynol Adroddiad Perfformiad 2017/18 yn cael ei chyhoeddi erbyn y dyddiad statudol ar ddiwedd mis Hydref a bod Swyddogion yn cwblhau’r adroddiad mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio i’w gyhoeddi fel rhan o bapurau’r Cyngor ar gyfer ei gyfarfod ar 22 Hydref.
· Bod Adran 3.2 o Gyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio i gynnwys cymeradwyo penderfyniadau ar gyfer Datganiad ac Amcanion Llesiant y Cyngor yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel swyddogaeth y mae’n rhaid i’r Cyngor Llawn ei chyflawni.
· Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn cael ei hawdurdodi i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r materion sydd wedi eu neilltuo fel swyddogaethau y mae’n rhaid i’r Cyngor Llawn eu cymeradwyo yn y Cyfansoddiad ynghyd ag unrhyw newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud o ganlyniad i adlewyrchu hynny.