Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 yn Chwarter 2.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Gorffennaf 2022, fel y’i cyflwynwyd, gan nodi fod y Flaen Raglen Waith yn cael ei diweddaru bob mis a’i chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith fel eitem sefydlog.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Gamblo ar gyfer 2022-25.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gyfrifo’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2022/23, sef 31,079.93 (Rhan E6 o Atodiad A yr adroddiad).
· Cymeradwyo’r cyfrifiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 at ddibenion pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer yr ardal gyfan a rhannau ohoni am y flwyddyn 2022/23 (Rhan E5 o Atodiad A yr adroddiad)
· Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrifo fel sylfaen y dreth am y flwyddyn 2022/23 yw 32,042.00, ac fel y nodir yn nhabl 3 yr adroddiad ar gyfer y rhannau o’r ardal a restrir ynddo.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo cyhoeddi Strategaeth Iaith Gymraeg 2016-21: Adroddiad Asesu (drafft) ar y wefan gorfforaethol.
· Argymell i’r Cyngor Llawn y dylid cymeradwyo Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-26 (drafft) ac awdurdodi’r swyddogion perthnasol i wneud unrhyw adolygu pellach o’r strategaeth ddrafft cyn ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor dim hwyrach na 31 Rhagfyr 2021.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn mabwysiadu’r Cynllun Trosiannol a fydd yn darparu fframwaith gweithredol i Swyddogion gyflawni amcanion strategol allweddol trwy gamau gweithredu diffiniedig yn ystod cyfnod adfer yr Ynys yn union ar ôl y pandemig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cefnogi a mabwysiadu’n ffurfiol y Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2021/22.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yn hyn a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa’n ddibynnol ar dderbyn cymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r golled ariannol a’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws.
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
Derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio am Ch2 2021/22, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru fel y’u nodir yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol:-
· Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032.
· Diffiniad o rôl y Cydlynwyr Iaith Dalgylch.
· Awdurdodi Swyddogion perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio, i gwblhau unrhyw adolygiadau pellach o’r strategaeth ddrafft.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2021
Effective from: 29/11/2021
Penderfyniad:
Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2021 yn gywir.