Bydd y Cadeirydd yn cael eu hethol gan y Cyngor Sir yn flynyddol. Mae cyfrifoldebau’r Cadeirydd yn cynnwys:
· cynnal a hyrwyddo Cyfansoddiad y Cyngor
· cadeirio a llywyddu cyfarfodydd y Cyngor er mwyn i faterion allu cael eu cynnal mewn modd effeithlon a gan ystyried hawliau’r Cynghorwyr a buddiannau’r gymuned
· sicrhau bod cyfarfod y Cyngor yn fforwm ar gyfer gallu trafod materion sy’n pryderu’r gymuned leol ac yn rhywle lle gall aelodau nad ydynt ar y Pwyllgor Gwaith ddal Cadeiryddion y Pwyllgor Gwaith a Phwyllgorau eraill i gyfrif
· hyrwyddo ymgysylltiad y cyhoedd yng ngweithgareddau’r Cyngor
· gweithredu fel cydwybod y Cyngor
· mynychu digwyddiadau dinesig a seremonïol