
Mae Gill yn Gymrawd Sefydliad Siartredig
Personél a Datblygu a chanddi nifer o flynyddoedd o brofiad
fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn y maes Tai Cymdeithasol.
Gweithiodd yn y gorffennol hefyd fel Cyfarwyddwr ei busnes
ymgynghori AD a Datblygiad Sefydliadol ei hun ac mewn rolau AD uwch
yn y sector cyhoeddus a’r sector breifat gan gynnwys ym
meysydd Gwasanaethau Ariannol, y diwydiant Modurol, Ynni/Cyfleustodau, Adwerthu ac
Amddiffyn.
Mae Gill yn aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Conwy,
Cyngor Sir Fflint ac Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd
Cymru. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Panel Lleyg ar Baneli Rheoleiddio
Gwaith Cymdeithasol yn Lloegr Gofal Cymdeithasol Cymru, Aelod Lleyg
ar y Pwyllgor Ymchwiliol Rheoleiddio Nyrsio a Bydwreigiaeth ac yn
Aelod Panel Annibynnol ar Dribiwnlysoedd Apeliadau Heddlu a
Gwrandawiadau Camymddygiad Heddlu yng Ngogledd Cymru. Bu hefyd yn
gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer dau sefydliad elusennol lleol ac
yn aelod o Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer
Athrawon.
Mae Gill yn byw yn Llandudno ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau cerdded yn y mynyddoedd ac o amgylch arfordir Gogledd Cymru.
E-bost: gillmurgatroyd@ynysmon.llyw.cymru