Teitl: Cynrychiolydd cynghorau tref / cymuned ar y Pwyllgor Safonau.
Cynrychiolydd cynghorau tref / cymuned ar y Pwyllgor Safonau.
Cyfarwyddwr cwmni preifat peirianneg sifil ac adeiladwaith sydd yn parhau gyda diddordeb mewn cynllunio a rheolaeth prosiectau yn ei ymddeoliad.
Cymerodd ysbaid am 20 mlynedd i weithio mewn rôl ymgynghorol a rheolaeth i’r cydfenter Llywodraeth Leol / Adran Waith a Phensiynau mewn rhaglen datblygu a darparu cyfleoedd waith i bobl gydag anableddau.
Am flynyddoedd lawer, bu Mr Evans yn gynrychiolydd diwydiant, yn lleol a chenedlaethol, yn ymwneud gyda datblygiad busnesau ac yn dal swyddi mewn nifer o gyrff cysylltiadau diwydiannol cydnabyddedig. Mae ganddo ddiddordeb dwfn mewn hyfforddiant a datblygiad personol, ac yn aelod o’r Sefydliad Materion Cymreig.
Mae Mr Evans wedi gwasanaethu fel cynghorwr cymuned ers 1974, fel Cadeirydd ar sawl achlysur, a rhai blynyddoedd yn Gadeirydd ac Aelod o Lywodraethwyr Ysgol Esceifiog. Mae hefyd yn gynrychiolydd Un Llais Cymru, sef llais cynghorau cymunedol a thref yng Nghymru.
E-bost: rexcs@anglesey.gov.uk