Teitl: Co-opted Independent Member
Mae Trefor yn Gymrawd (Ymdd.) o Sefydliad y
Coedwigwyr Siartredig, gyda bron i 40 mlynedd o brofiad fel Gwas
Sifil yn gwasanaethu Llywodraeth EM, Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth yr Alban. Mae wedi gweithio mewn rolau uwch
arweinyddiaeth, datblygu polisi, cyflwyno gweithredol a rheoli
rhaglenni. Roedd hyn yn cynnwys gwaith blaenllaw i ddatganoli a
sefydlu trefniadau newydd ar gyfer coedwigaeth yng Nghymru a'r
Alban.
Mae Trefor wedi dychwelyd i fyw yn Ynys Môn, ac yn mwynhau gwirfoddoli gyda Gwylwyr y Glannau EM, cerdded Llwybr Arfordirol Ynys Môn, teithio a threulio amser gyda'i deulu.