Mr David Davies

Profile image for Mr David Davies

Teitl: Independent Member of the Standards Committee

Gwybodaeth ychwanegol

Roedd David yn Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol yng Nghyngor Sir Ddinbych tan iddo ymddeol ac roedd hefyd yn Swyddog Arweiniol â chyfrifoldeb dros ymgysylltu â’r 37 Cyngor Tref a Chymuned, y Trydydd Sector a’r Gymuned Lluoedd Arfog. Roedd ei rôl hefyd yn cynnwys datblygu nifer o strategaethau corfforaethol yn cynnwys Polisi Cydraddoldeb y Cyngor, y Cynllun Iaith Gymraeg, Cyfamod y Lluoedd Arfog a Siartr y Cyngor â’r Cynghorau Tref a Chymuned.

Mae David yn siarad Cymraeg ac yn Ynad Llywyddol, mae’n gwerthuso cyd-Ynadon ac yn eistedd ar Banel Ymgynghori’r Arglwydd Ganghellor ar benodiad Ynadon yng Nghymru.

Yn ogystal â bod yn Aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac Amgueddfa Dinbych mae hefyd yn Llywodraethwr yn Ysgol Tremeirchion ac yn Geidwad rhan-amser ym Mhentref Peryglon, sef canolfan addysgol elusennol yn Sir y Fflint.

Mae David yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint ac Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’n byw yn Nhremeirchion, Sir Ddinbych, ac yn chwaraewr badminton go lew, ond hynod frwdfrydig. Mae’n mwynhau crwydro Eryri ac mae wedi cwblhau nifer o lwybrau cerdded gan gynnwys Llwybr Arfordirol Môn.

 

Apwyntiadau pwyllgor