
Teitl: Aelod Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Mae Adam Jones yn Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith Trydanol sy’n gweithio yn yr Adran Adeiladu yng Ngholeg Menai (Grŵp Llandrillo Menai). Mae ganddo brofiad helaeth o arwain, cydymffurfio a rheoli risg i’w gynnig i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, wedi iddo dreulio 25 mlynedd fel uwch reolwr yn arbenigo mewn Rheoli Cyfleusterau, Iechyd a Diogelwch, Gweithrediadau a Rheoli Prosiectau. Dechreuodd Adam ei yrfa yn y diwydiant niwclear gan hyfforddi fel prentis peirianneg drydanol cyn symud ymlaen i weithio ym maes cemeg niwclear yng Ngorsaf Bŵer Wylfa. Mae ei ymrwymiad cryf i addysg leol ac arweinyddiaeth gymunedol yn amlwg iawn ac mae hefyd yn gwasanaethu fel llywodraethwr yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch ar hyn o bryd.