Teitl: Is-gadeirydd ac aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau
Is-gadeirydd ac aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau
Hyd nes iddo dderbyn ymddeoliad cynnar, bu Islwyn Jones yn rheolwr hefo’r Post Brenhinol am dros 21 o flynyddoedd, gan ddal aml i swydd reoli a threulio’r deng mlynedd olaf o’i yrfa fel uwch-reolwr. Dyma grynodeb o beth o’r gwaith a wnaeth yn ystod ei yrfa sy’n berthnasol i’w swyddogaeth ar y pwyllgor safonau:
Rhan o’i swydd fel rheolwr oedd ymchwilio i honiadau o gamymddwyn, golygai hyn gyflawni ymchwiliadau manwl a chasglu tystiolaeth cyn gwneud unrhyw benderfyniad os oedd cosb yn briodol; hefyd, gwrandawai ar ambell i apêl gan weithwyr yn erbyn cosb a roddwyd gan reolwyr eraill. Amddiffynnodd sawl penderfyniad yn llwyddiannus mewn tribiwnlysoedd diwydiannol.
Mae wedi cymhwyso mewn technegau cyfweld mewn meysydd yn cynnwys recriwtio ac ymchwilio i faterion fel honiadau o gamymddwyn a honiadau o aflonyddu a bwlio.
Bu Islwyn hefyd yn Asesydd Annibynnol Apwyntiadau Cyhoeddus o 2003 i 2012.