Aelod lleyg o’r Pwyllgor Safonau
Ar ôl graddio gyda gradd anrhydedd mewn Bacterioleg ym Mhrifysgol Lerpwl, aeth Mrs Shaw ymlaen i weithio yn y maes ymchwil fferyllol gydag amryw o gwmnïau adnabyddus yn Llundain ac o gwmpas y ddinas.
Yn dilyn egwyl yn ei gyrfa a dychwelyd i Langefni, derbyniodd swydd fel Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Môn hyd nes 2005. Cafodd wedyn ei phenodi’n Gyfarwyddwr Anweithredol o Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru hyd nes ei ddiddymu yn 2009. Ers hynny, mae hi wedi gweithio’n achlysurol fel Rheolwr Cysylltiol (Iechyd Meddwl) ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Mrs Shaw wedi gwneud gwaith yn amlwg yn y sector wirfoddol ers nifer o flynyddoedd gan weithio gyda Crossroads Gofal ar gyfer Gofalwyr, (aelod cychwynnol), Grŵp Dystroffi’r Cyhyrau Môn (aelod cychwynnol a chyn Gadeirydd), Theatr Fach ac eraill.
Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd Medrwn Môn a Tai Chi Llangefni. Mae ganddi un mab a phedwar o wyrion.