· Disgrifiad o Rôl Aelod o’r Pwyllgor Safonau
Cychwynnodd ei gyrfa fel athrawes uwchradd ac yna
gweithiodd ym maes Addysg Bellach, cyn gweithio am dros 30 mlynedd
o fewn llywodraeth leol.
Roedd yn
Gyfarwyddwr Cynorthwyol hyfforddiant, datblygu rheolwyr ac adnoddau
dynol ac yna’n Uwch Reolwr Strategol Polisi a Pherfformiad -
yn cynnal prosiectau strategol ac ymchwiliadau.
Yn fwy
diweddar, bu’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol yr Ombwdsman
Gwasanaethau Cyhoeddus, yn Is Gadeirydd ar Asiantaeth Tai ac yn
aelod lleyg ar Bwyllgor Archwilio Cyngor Ynys Môn.
Ar hyn o bryd, mae’n aelod lleyg o Bwyllgor Archwilio Cyngor Gwynedd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Safonau Parc Cenedlaethol Eryri.
E-bost: SharonWarnes@ynysmon.llyw.cymru