Mr John Robert Jones

Profile image for Mr John Robert Jones

Gwybodaeth ychwanegol

 

Disgrifiad o Rôl Cadeirydd y Pwyllgor Safonau

 

Cefais y fraint o fod yn Brif Swyddog Medrwn Môn, sef y Cyngor Gwirfoddol Sirol sydd yn hybu a chefnogi gweithgaredd gwirfoddol a chymuned ar Ynys Môn am nifer o flynyddoedd hyd at fy ymddeoliad yn 2016.

 

Felly mae fy mhrofiad gwaith yn y sector wirfoddol ac mewn swyddi rheoliaethoddol. Rhan o fy ngwaith oedd datblygu perthynas adeiladol gyda chyrff statudol felly mae gennyf brofiad helaeth o weithio gydag awdurdodau cyhoeddus drwy fod yn rhan o bwyllgorau, gweithgorau ayyb. Cefais y fraint o weithredu fel cynghorydd cymuned am nifer o flynyddoedd ac wedi bod yn lywodraethwr ysgol gymuned ac yn gadeirydd corff llywodraethwyr ysgol uwchradd.

 

Yr wyf yn frodor o Ynys Môn ac wedi ei fagu, ei addysgu ac wedi gweithio yma rhan fwyaf o’m hoes ond cefais brofiad o dderbyn addysg bellach ac o weithio tu hwnt i’r Afon Fenai am gyfnod. Rwyf yn briod, yn dad i dri o blant ac yn daid i ddau.

 

Fy niddordebau yw teulu, fy nghymuned, golf, rygbi, beicio a cherdded.

Gwybodaeth cyswllt

E-bost:  johnjones@ynysmon.llyw.cymru

Apwyntiadau pwyllgor