Yn enedigol o Fôn, aeth Rhys i astudio deintyddiaeth yng Nghaerdydd ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol David Hughes. Bu’n ddeintydd yn ei bractis yn Llangefni am dros 30 mlynedd, a hefyd cafodd gyfnod gyda’r gwasanaeth deintyddol cymunedol.
Mae bellach wedi ymddeol ond mae’n parhau i fyw ar yr ynys.
Yn y gorffennol, bu Rhys yn aelod o Gyngor Cynulleidfa'r BBC (Cymru), yn Ymddiriedolwr dros Ganolfan Lôn Abaty Bangor, yn Gadeirydd ar Y Gymdeithas Ddeintyddol, yn Ynad ar fainc Ynys Môn/Gwynedd ac yn aelod annibynnol o'r Cyngor Iechyd Cymunedol gan gadeirio Pwyllgor Lleol Dinbych.
E-bost: RhysDavies@ynysmon.gov.uk