Mr. Michael Wilson

Profile image for Mr. Michael Wilson

Teitl: Cadeirydd ac aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau.

Gwybodaeth ychwanegol

Bu Mr Wilson yn gweithio yn y diwydiant cynhyrchu bwyd ledled y DU ac Ewrop, mewn gwahanol rolau ond bob amser ar ochr fasnachol y busnes. Ar hyn o bryd, mae o’n gyfarwyddwr/ymddiriedolwr cronfa bensiwn fawr sydd â dros 15000 o aelodau a dros £2.5 biliwn o asedau gan wasanaethu ar y Pwyllgor Archwilio a Chyfathrebu a’r Pwyllgor Pensiynau Dewisol.

 

Roedd yn gadeirydd ymddiriedolaeth ddatblygu canol dinas am nifer o flynyddoedd gan weithio gyda chyrff lleol a’r llywodraeth i wella strwythurau ac amodau yn ardal yr ymddiriedolaeth. Gwasanaethodd am 10 mlynedd fel cadeirydd llywodraethwyr a dirprwy gadeirydd panel apeliadau a gwahardd ysgol fwrdeistref fetropolitanaidd.

 

Roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn am 8 mlynedd.

Apwyntiadau pwyllgor