Teitl: Cynrychiolydd cynghorau tref / cymuned ar y Pwyllgor Safonau.
Cynrychiolydd cynghorau tref / cymuned ar y Pwyllgor Safonau.
Etholwyd John Roberts yn gyntaf fel aelod o hen gyngor plwyf Llanfairpwll yn 1970 a daeth yn aelod o Gyngor Bro Llanfairpwll yn 1974.
Roedd Mr Roberts yn aelod o hen Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn a daeth yn aelod o Gyngor Sir Ynys Môn yn 1996. Yn ystod ei 12 mlynedd fel cynghorydd sir, bu Mr Roberts yn cadeirio amryw o bwyllgorau a bu’n ddeilydd portffolio Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth ar Bwyllgor Gwaith y Cyngor rhwng 2004 a 2007. Bu hefyd yn gwasanaethu fel is-gadeirydd y Cyngor Sir yn 2007/08.
Yn gyn athro, mae Mr Roberts hefyd wedi gweithio fel swyddog addysg anghenion arbennig. Mae’n parhau yn aelod o fwrdd Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru wedi tair blynedd fel Cadeirydd. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Cyngor Ar Bopeth Ynys Môn.
Etholwyd Mr Roberts yn ddiweddar fel ail gynrychiolydd cynghorau tref / cymuned ar y Pwyllgor Safonau gan Unllais Cymru - mudiad cenedlaethol Cynghorau tref a chymuned. Mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Rhanbarthol Môn o Unllais Cymru.
E-bost: jrxcs@anglesey.gov.uk