Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 02/07/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 663 KB

11.1  14C232B/VAR – Rhyd Ysbardyn Uchaf, Llangefni

 

11.2  16C199Swyddfa Bost, 38 38 Stryd Fawr, Bryngwran

 

11.3  37C174D – Tre-Ifan, Brynsiencyn

Penderfyniad:

11.1   14C232B/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (03) ar gais cynllunio cyfeirnod 14C232 (dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd) fel y gellir cyflwyno Tysysgrif Interim cyn i neb symud i mewn i’r annedd yn Rhyd Ysbardyn Uchaf, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2   16C199 – Cais llawn i newid defnydd y Swyddfa Bost (dosbarth defnydd A1) yn annedd (dosbarth defnydd C3) yn y Swyddfa Bost, 38 Stryd Fawr, Bryngwran

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.3   37C174D - Cais llawn ar gyfer traciau fferm arfaethedig yn Tre-Ifan, Brynsiencyn

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

11.1   14C232B/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (03) ar gais cynllunio cyfeirnod 14C232 (dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd) fel y gellir cyflwyno Tysysgrif Interim cyn i neb symud i mewn i’r annedd yn Rhyd Ysbardyn Uchaf, Llangefni

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol’ fel sy’n cael ei ddiffinio yn y Cyfansoddiad.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan Baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2   16C199 – Cais llawn i newid defnydd y Swyddfa Bost (dosbarth defnydd A1) yn annedd (dosbarth defnydd C3) yn y Swyddfa Bost, 38 Stryd Fawr, Bryngwran.

 

Datganodd y Cynghorydd Bob Parry ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Gynghorydd.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.3   37C174D - Cais llawn ar gyfer traciau fferm arfaethedig yn Tre-Ifan, Brynsiencyn

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn fab i Aelod Lleol.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r prif fater oedd yr effaith a gâi’r trac ar y dirwedd.  Roedd yr Awdurdod Cynllunio yn fodlon na fyddai’r cais yn cael effaith niweidiol ar yr ardal.  Roedd trafodaethau wedi eu cynnal gyda CADW i ddiogelu ac amddiffyn henebion oedd ar y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.