13.1 12C431C/LB – Gwynfa, Biwmares
13.2 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
13.1 12C431C/LB – Caniatâd adeilad rhestredig i osod drysau Ffrengig yn lle’r ffenestri presennol yn Gwynfa, Biwmares.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.
13.2 22C40A – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a’r garej, a chodi annedd a garej a stablau yn ei lle a gosod gwaith trin carthffosiaeth a gwneud gwaith altro i’r fynedfa i gerbydau yn Cae Maes Mawr, Llanddona
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.
Cofnodion:
13.1 12C431C/LB - Caniatâd adeilad rhestredig i osod drysau Ffrengig yn lle’r ffenestri presennol yn Gwynfa, Biwmares.
Cafodd y cais ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 2 Gorffennaf. Roedd yr Aelodau wedi argymell caniatáu’r cais Adeilad Rhestredig a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais wedi cael ei anfon ymlaen i CADW i’w ystyried a’i fod wedi ei ganiatáu ond bod CADW hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r ffordd y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor ac yn benodol y graddau yr oedd y Cyngor wedi ystyried addasrwydd y cynnig yn erbyn polisi a chyfarwyddyd wrth ddod i’w benderfyniad. O ganlyniad, dywedodd y Swyddog y bydd adroddiadau i’r Pwyllgor ar geisiadau Adeiladau Rhestredig yn y dyfodol yn cyfeirio at anghenion Deddf Adeilad Rhestredig ac Ardal Gadwraeth 1990.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.
13.2 22C40A – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a’r garej, a chodi annedd a garej a stablau yn ei lle a gosod gwaith trin carthffosiaeth a gwneud gwaith altro i’r fynedfa i gerbydau yn Cae Maes Mawr, Llanddona
Hysbyswyd y Pwyllgor fod apêl wedi ei chyflwyno i’r Arolygaeth Gynllunio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 2 Gorffennaf i wrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.