Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Penderfyniad: Nid oedd unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Penderfyniad: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-
Y Cynghorydd W. T. Hughes yng nghyswllt cais 6.1 Y Cynghorydd John Griffith yng nghyswllt cais rhif 7.1 Y Cynghorydd Kenneth P. Hughes yng nghyswllt cais rhif 13.1
Datganodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddiddordeb personol oherwydd bod maniffesto Plaid Cymru yn gwneud sylwadau yng nghyswllt tyrbinau gwynt. Dywedodd yr Aelodau y byddent yn ystyried pob cais ar ei rinweddau cynllunio.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5ed Mehefin, 2013. Penderfyniad: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2013.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd a gafwyd ar 19 Mehefin, 2013. Penderfyniad: Cadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2013.
|
|
Y Cyhoedd yn Siarad Penderfyniad: Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol i siarad ar geisiadau 7.1 a 10.1.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 1 MB
6.1 20LPA962/CC – Fron Heulog, Cemaes 6.2 41C8C – Garnedd Ddu, Star 6.3 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi Penderfyniad: 6.1 20LPA962/CC – Cais ol weithredol ar gyfer y trac cafodd ei wneud yn ddiweddar ynghyd a gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Fron Heulog, Cemaes
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol
6.2 41C8C – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y tir er mwyn lleoli 33 o garafannau symudol, codi bloc toiled, creu mynedfa i gerbydau ynghyd a thirlunio yn Garnedd Ddu, Star
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ar ofyn y Swyddogion.
6.3 46c427K/TR/EIA/ECON – Cais gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull mynediad, ar gyfer : Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys cabannau a bythynnod newydd; Adeilad canolbwynt canolog newydd gan gynnwys derbynfa, cyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr dan do, bowlio deg a neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai a siopau; adnewyddu ac ymestyn adeiladau ar y stad ar gyfer Marchnad Ffermwyr; lle chwarae dan do i blant, Sba gyda gym a chyfleusterau newid, addasu adfeilion yr hen Dy Cychod yn fwyty wrth y traeth, Darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r llwybr arfordirol gan gynnwys: Rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar i goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; Creu trywydd cerfluniau newydd trwy goetir a llwybrau pren a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; Bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres cyfun. Codi llety pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 315 o gabanau i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer 2000 o weithwyr adeiladu; Adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; Cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; Gwesty newydd; Adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, siopau a bar; Cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Chanolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad ansawdd uchel i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: cabanau ac adeiladau cyfleusterau wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o gabanau i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Canolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr. Datblygiad preswyl gyda hyd at 360 o dai wedi eu gosod ar dir agored, wedi’i dirlunio yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi. Bydd pob cam o’r datblygiad yn cynnwys lle parcio, mannau gwasanaeth, llecynnau agored a gwaith plannu ym ... view the full Penderfyniad text for item 6. |
|
Ceisiadau yn codi o’r Cofnodion PDF 1 MB
7.1 19C313A – Stad Pentrefelin & Waenfawr, Caergybi 7.2 34LPA121Q/CC –Ysgol Gyfun Llangefni , Llangefni Penderfyniad: 7.1 19C313A – Cais amlinellol ar gyfer codi 22 annedd ynghyd a chreu mynedfa newydd ar dir rhwng Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar ymwneud Cytundeb Adran 106 fel oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad.
7.2 34LPA121Q/CC – Codi uned i gadw boiler biomass llosgi peledi coed yn gystylltiedig a’r ysgol newydd sydd yn cael ei chodi ar dir yn Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni
Eitem i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.
|
|
Ceisiadau Tai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.
|
|
Ceisiadau’n Tynnu’n Groes i Bolisi PDF 535 KB 10.1 42C321 – Y Sidings, Pentraeth Penderfyniad: 10.1 42C231 – Cais llawn i godi 13 annedd newydd ynghyd a creu mynedfa newydd ar dir yn The Sidings, Pentraeth
PENDERFYNWYD y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Pwyllgor ddod yn gyfarwydd â’r safle.
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.
|
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 938 KB 12.1 21C84E – Drogan, Llanddaniel 12.2 33LPA981/CC – Fron Capel, Gaerwen 12.3 45C429/AD – Ynys Llanddwyn Penderfyniad: 12.1 21C84E – Cais llawn ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Drogan, Llanddaniel
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
12.2 33LPA981/CC –Cais llawn i ddymchwel to fflat presennol ynghyd ag addasu ag ehangu yn Fron Capel, Gaerwen
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
12.3 45C429/AD – Cais i osod 4 panel dehongli ar dir yn Ynys Llanddwyn
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
|
|
13.1 38C185C – Maes Mawr, Llanfechell Penderfyniad: 13.1 38C185C –Cais llawn ar gyfer codi un twrbin gwynt gyda uchder hwb hyd at uchafswm o 24.6m, diamedr rotor hyd at 19.2m a uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.2m ar dir yn Maes Mawr, Llanfechell
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel y gallai’r Pwyllgor weld y safle.
|