Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 5ed Mehefin, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyflwyniad

Cynigwyd gair o groeso a llongyfarchiadau gan y Prif Swyddog Cynllunio i’r aelodau newydd a etholwyd yn ddiweddar ac a oedd yn ymuno â’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y tro cyntaf yn ogystal â’r Aelodau a oedd wedi eu hailethol ac a oedd yn ailymaelodi â’r Pwyllgor ar adeg gyffrous iawn i’r Pwyllgor a’r Awdurdod fel ei gilydd.

Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn dymuno dweud, fel aelod newydd ar y Pwyllgor Cynllunio, ei fod yn siomedig nad oedd wedi medru dod i’r sesiwn hyfforddi a gynhaliwyd ddydd Llun i baratoi ar gyfer y cyfarfod hwn, a hynny hwn oherwydd amgylchiadau mewn perthynas â’i gar.  Fodd bynnag, nid oedd wedi cael gwybod tan yn ddiweddar iawn na fyddai yn awr yn gallu cymryd rhan a phleidleisio ar y ceisiadau gerbron y Pwyllgor heddiw oherwydd nad oedd wedi mynychu’r sesiwn hyfforddi.  Roedd y Cynghorydd Evans yn ystyried ei fod yn syfrdanol ac yn annheg nad oedd aelod newydd wedi cael gwybod am yr amod hwn oherwydd, pe bai’n ymwybodol ohono, byddai wedi gwneud pob ymdrech i fod yn bresennol oherwydd bod hwn yn fater pwysig iddo.  O ganlyniad, ni fyddai’n cymryd rhan yn y cyfarfod heddiw ac ni fyddai ond efallai yn gallu cyfrannu ar faterion o naws leol, ond heb fedru pleidleisio.  Er ei fod yn derbyn mai dyna oedd y rheolau, pwysleisiodd y dylai fod wedi cael gwybod amdanynt fel aelod newydd, yn arbennig felly o ran y sesiynau y mae’n rhaid eu mynychu er mwyn medru ymarfer hawliau pleidleisio.

Cadarnhaodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfreithiol bod y rheolau gweithdrefnau cynllunio yn cynnwys y fath amodau a bod y ddarpariaeth honno wedi bod yn rhan o’r Rheolau Cynllunio ers cryn amser.  Ymddiheurodd os oedd yr Aelod yn teimlo ei fod dan anfantais yn y cyfarfod hwn o ganlyniad, ond roedd yn hyderus y byddai’r Swyddogion Cynllunio yn trefnu hyfforddiant i’r Cynghorydd Evans cyn y cyfarfod nesaf.

 

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:

 

·         Y Cynghorydd John Griffith mewn perthynas â chais 7.1

·         Y Cynghorydd Victor Hughes mewn perthynas â cheisiadau 7.3 ac 11.1

·         Y Cynghorydd Kenneth Hughes mewn perthynas â chais 13.1

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ann Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol ar y sail bod maniffesto Plaid Cymru yn cynnwys pwyntiau mewn perthynas â thyrbinau gwynt.  Dywedodd y byddai’n rhoi sylw i bob cais yn ôl eu rhinweddau cynllunio.

 

3.

Cofnodion Cyfarfod 24 Ebrill, 2013 pdf eicon PDF 242 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 24 Ebrill, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 24 Ebrill, 2013 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle

Ni chynhaliwyd ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar  24 Ebrill, 2013.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 24 Ebrill, 2013.

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd bod Siaradwyr Cyhoeddus yn bresennol mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.3, 11.1, 12.11 a 12.14. (Gohiriwyd rhoi sylw i gais 7.1 fel bod modd cynnal ymweliad safle).

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 1 MB

6.1 – 34LPA121Q/CC – Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni

 

6.2 – 41C8C – Garnedd Ddu, Star

 

6.3 – 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

Cofnodion:

6.1 34LPA121Q/CC – Gosod bwyler biomas llosgi peledi coed yng nghyswllt yr ysgol newydd a fydd yn cael ei chodi ar dir yn Ysgol Gyfun Llangefni.

 

Dywedodd y Rheolydd Rheoli Datblygu y byddai o fudd i’r Aelodau weld y safle a’i gyd-destun drostynt eu hunain cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

6.2 41C8C Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir er mwyn lleoli 33 o garafanau teithiol, codi bloc toiledau, adeiladu mynedfa i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio yn Garnedd Ddu, Star.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod y cyn-Aelod Lleol wedi galw’r cais i mewn i’w benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.  Roedd y Swyddogion yn credu y byddai o fudd i’r Aelodau weld y safle a’i gyd-destun cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.3 Cais gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull mynediad, ar gyfer :

Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys cabannau a bythynnod newydd; Adeilad canolbwynt canolog newydd gan gynnwys derbynfa, cyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr dan do, bowlio deg a neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai a siopau; adnewyddu ac ymestyn adeiladau ar y stad ar gyfer Marchnad Ffermwyr; lle chwarae dan do i blant, Sba gyda gym a chyfleusterau newid, addasu adfeilion yr hen Dy Cychod yn fwyty wrth y traeth,   Darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r llwybr arfordirol gan gynnwys: Rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar i goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; Creu trywydd cerfluniau newydd trwy goetir a llwybrau pren a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; Bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres cyfun. Codi llety pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 315 o gabanau i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer 2000 o weithwyr adeiladu; Adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; Cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; Gwesty newydd; Adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, siopau a bar; Cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Chanolfan Bŵer a Gwres Gyfun  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 – 19C313A – Stâd Pentrefelin a Waenfawr , Caergybi

 

7.2 – 20C289 – Blaendraeth ger yr Harbwr, Cemaes

 

7.3 – 42C61G – Y Garafan, Ty’r Ardd, Pentraeth

Cofnodion:

7.1 19C313A - Cais amlinellol i godi 22 annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd ar dir rhwng Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi.

 

Oherwydd ei fod wedi gwneud datganiad o ddiddordeb yn y cais, gadawodd y Cynghorydd John Griffith y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod y cais uchod yn dyddio’n ôl i gyfnod yr hen Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a oedd yn bodoli cyn yr etholiad llywodraeth leol ym mis Mai.  Gohiriwyd rhoi sylw i’r cais yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor ar 24 Ebrill oherwydd ystyriwyd y gallai penderfynu’r cais cyn yr etholiad fod yn gynhennus yn lleol.  Esboniodd y Swyddog bod anhawster yn y cyfarfod hwn oherwydd nad oes cworwm o aelodau o’r hen Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn gwasanaethu ar y Pwyllgor cyfredol i fedru gwneud penderfyniad.  ‘Roedd y Swyddog wedi argymell i’r cyn-Bwyllgor ymweld â’r safle, a dyna felly yw’r argymhelliad i’r Pwyllgor yn y cyfarfod heddiw - sef bod Aelodau yn ymweld â’r safle cyn penderfynu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylai’r Pwyllgor ymweld â’r safle, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel y gellir ymweld â’r safle o’r newydd.

 

7.2 20C289 – Cais llawn i osod ‘Cloch Llanw ac Amser’ a ffrâm gynhaliol yn y blaen traeth ger yr Harbwr yng Nghemaes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor i’w benderfynu oherwydd ei fod yn gais ar dir y mae’r Cyngor yn ei brydlesu gan Stad y Goron.  Gohiriwyd y cais yn flaenorol oherwydd bod yr adran wedi cael llythyrau’n gwrthwynebu ac am fod yr Adain Iechyd yr Amgylchedd wedi cyflwyno gwrthwynebiad i’r cais hefyd.  Mae’r pwyntiau a godwyd yn y gwrthwynebiadau wedi eu trafod ac wedi eu datrys ers hynny.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod y gloch yn arteffact cyhoeddus ac esboniodd ei phwrpas a sut y byddai’n gweithio.  Esboniodd bod y cais wedi ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd gwrthwynebiad lleol i’r cynnig ar sail niwsans sŵn posib ac oherwydd bod gan Swyddogion yr Adain Iechyd yr Amgylchedd bryderon tebyg ar y pryd.  Mae’r Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wedi gwneud ymchwiliadau pellach ers hynny, yn arbennig felly mewn perthynas â’r lefelau sŵn y gallai’r gloch eu cynhyrchu ac, fel ffordd o oresgyn y broblem, maent yn fodlon rhoi caniatâd cynllunio dros dro yn unig. Mae hynny’n golygu’n ymarferol y byddai caniatâd cynllunio yn cael ei roi am flwyddyn ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, gallai unrhyw faterion niwsans sŵn gael sylw gan y Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd dan ddeddfwriaeth Iechyd Amgylcheddol perthnasol ac, os gwelir bod y gloch wedi achosi niwsans sŵn, ni fyddai’r caniatâd cynllunio yn cael ei adnewyddu.  Dyna felly oedd argymhelliad y Swyddog.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo argymhelliad y Swyddog i roi caniatâd cynllunio dros dro ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes a oedd yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 441 KB

11.1 – 33C258B/RUR – Cefn Poeth, Penmynydd

Cofnodion:

11.1  33C258B/RUR – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd amaethyddol, altro’r fynedfa i gerbydau ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Cefn Poeth, Penmynydd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Victor Hughes ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Roedd y cais wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff perthnasol fel sydd wedi ei amlinellu yng Nghyfansoddiad y Cyngor.  Roedd y Swyddog Monitro wedi adolygu’r ffeil ond nid oedd wedi codi unrhyw bryderon.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rhys Davies annerch y Pwyllgor i siarad o blaid y cais.

 

Dywedodd Mr Davies mai cais am annedd amaethyddol i’r gogledd o Benmynydd oedd hwn.  Mae’r safle yn agos i gwrtil y ffarm a hwn yw’r safle agosaf yr oedd yr ymgeisydd yn gallu dod o hyd iddo sy’n addas ac sy’n agos i’r adeiladau amaethyddol, sef yr hyn y mae’r polisiau cynllunio yn annog ymgeiswyr i wneud.  Mae’r adroddiadau gyda’r cais yn dangos bod angen annedd fferm ychwanegol ac mae’r datblygiad arfaethedig wedi ei fwriadu i’w ddefnyddio gan fab y fferm sy’n dymuno parhau i ffermio gyda’i deulu ar y fferm hon.  Mae’r cais yn cwrdd â’r holl feini prawf sy’n ofynnol o dan y polisi cenedlaethol er mwyn cael caniatâd am annedd amaethyddol.  Gorffennodd Mr Davies trwy ddweud y byddai’n fodlon ateb unrhyw gwestiynau a all godi mewn perthynas â’r cais.

 

Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor unrhyw gwestiynau i Mr Davies.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod polisïau cenedlaethol a lleol yn caniatáu codi anheddau yn y cefn gwlad os ydynt i’w defnyddio i ddibenion megis amaethyddiaeth.  Roedd rhaid cwrdd â rhai meini prawf ac mae’r Swyddogion yn fodlon bod y rheini wedi eu bodloni yn yr achos hwn.  Mae Swyddogion felly’n fodlon rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad ar yr amod y bydd yn cael ei ddefnyddio i ddibenion amaethyddol a bod cytundeb 106 yn cael ei gynnwys gyda’r caniatâd i sicrhau nad yw’r fferm yn cael ei thorri i fyny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.O. Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb Adran 106.

 

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 4 MB

12.1 – 11LPA921A/AD/CC – Maes Parcio, Mynydd Parys

 

12.2 – 12C266K – ABC Power Marine, Porth Lafan, Biwmares

 

12.3 – 19C484K – Trinity Marine, Porth y Felin, Caergybi

 

12.4 – 20LPA971/CC – Bonc y Môr, Cemaes

 

12.5 – 20LPA971A/AD/CC – Cemaes Greenery, Cemaes

 

12.6 – 20LPA971B/AD/CC – Bonc y Môr, Cemaes

 

12.7 – 20LPA973/AD/CC – Maes ParcioYmddiriedolaeth Genedlaethol, Llanbadrig

 

12.8 – 20LPA973/CC – Towyn Llanbadrig, Llanbadrig

 

12.9 – 31LPA977/AD/CC – Maes Parcio Twr Marcwis, Llanfairpwll

 

12.10 – 35LPA976/AD/CC – Trwyn y Penryn, Penmon

 

12.11 – 39C381D – Clwb Criced Porthaethwy, Porthaethwy

 

12.12 – 40LPA899B/AD/CC – Traeth Lligwy, Moelfre

 

12.13 – 43LPA974/AD/CC – Edrychfa Gwylwyr y Glannau, Rhoscolyn

 

12.14 – 46C520 – Gadlys, Ffordd Penrallt, Trearddur

Cofnodion:

12.1 11LPA921A/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli yn y Maes Parcio, Mynydd Parys.

 

Cyfeiriwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai’r cais uchod yw’r cyntaf o amryw o geisiadau yn rhan 12 y rhaglen y cyfarfod hwn am banelau dehongli.  Mae’r rhain wedi eu cyflwyno i sylw'r Pwyllgor gan mai’r Cyngor yw’r Ymgeisydd.  Pwrpas panelau o’r fath yw dangos manylion atyniadau lleol a darparu gwybodaeth am ddaeareg yr ardal ble bwriedir eu gosod.  Mae daeareg Ynys Môn yn cael ei chydnabod fel un sy’n arwyddocaol trwy’r holl fyd ac mae’r Ynys yn cael ei hadnabod fel Parc Geo Môn.  Mae’r datblygiadau hyn felly yn cyfrannu tuag at hyrwyddo’r agwedd hon, a bwriad y panelau yw creu profiadau addysgiadol a diddorol i gerddwyr.  Bydd pob panel yn cynnwys gwybodaeth am yr ardal leol ynghyd â manylion am ddaeareg yr ardal.  Gyda datblygiadau o’r fath, y ddau brif factor cynllunio y mae angen rhoi sylw iddynt yw effaith ar fwynderau a diogelwch priffyrdd.  Mae Swyddogion wedi asesu’r ffactorau hyn ar gyfer pob un o’r ceisiadau ac maent yn fodlon na fydd unrhyw broblemau yn codi o ganlyniad.  Argymhelliad o ganiatáu oedd hwn felly.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  12C266K – Cais cynlluniol ôl-weithredol ar gyfer addasu dyluniad y to ac addasiadau cyffredinol i Unedau 2 i 5 ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Porth Lafan, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais i sylw’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw perchennog y tir.

 

Cafwyd eglurhad ar gyd-destun y cais gan y Rheolydd Datblygu Cynllunio a chyfeiriwyd at ganiatâd cynllunio 12C266C a roddwyd i ailddatblygu’r safle cyfan, gan gynnwys dymchwel y siediau cychod cyfredol a chodi rhai newydd, ynghyd ag estyniadau i siop yr orsaf petrol.  Yr hun sydd wedi digwydd yn yr achos hwn yw bod dyluniad, uchder a deunyddiau toeau Unedau 2 i 5 yn wahanol i’r hyn a gymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio 12C266C. Maent yn is ac o wahanol liw i’r cynllun a gymeradwywyd yn wreiddiol ond mae’r Swyddogion yn ystyried eu bod yn dderbyniol gan eu bod yn cydymffurfio gyda’r polisïau cynllunio perthnasol ac yn well na’r hyn a gymeradwywyd yn y lle cyntaf.  Roedd yr argymhelliad felly yn un o gymeradwyo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar weithred amrywio ar gyfer y cytundeb cyfreithiol a gwblhawyd mewn perthynas â chais cynllunio 12C266C a’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.3 19C484K – Cais i ddileu amodau (15), (16), (17), (18), (19), (20), (21), (22) a (23) ar gais cynllunio 19C484A i ganiatáu porth a chroesfan ar y pafin ar gyfer defnydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 830 KB

13.1 – 38C185C – Maes Mawr, Llanfechell

13.2 – 38C236A – Tyddyn Paul, Llanfechell

Cofnodion:

13.1 38C185C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gyda hwb hyd at 24.6m o uchder, diamedr rotor hyd at 19.2m ac uchder o 34.2m i flaen y llafn fertigol ar dir ym Maes Mawr, Llanfechell. 

 

Roedd y cais wedi ei adrodd i’r pwyllgor yn wreiddiol oherwydd iddo gael ei benderfynu na fyddai pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio yng nghyswllt datblygiadau tyrbinau gwynt.  Roedd yr ymgeisydd ar y pryd yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Ynys Môn.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd Kenneth Hughes allan o’r cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio arno.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi penderfynu cymeradwyo’r cais ym mis Tachwedd 2012.  Ni ryddhawyd y caniatâd cynllunio ffurfiol tra roedd cwynion ffurfiol yn cael eu hystyried gan Swyddog Monitro’r Cyngor.  Cafwyd her gyfreithiol wedi hynny i’r Uchel Lys ac mae hwnnw’n parhau.  Yn ystod yr uchod, fe apeliodd yr ymgeisydd oherwydd methiant i benderfynu a dilyswyd yr apêl gyda hynny’n golygu bod yr hawl dros y cais yn awr yn gorwedd gyda’r Arolygiaeth Gynllunio a fydd yn gwneud penderfyniad ar y cais.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud bod y cais yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor am nifer o resymau fel oedd i’w weld yn yr adroddiad yn cynnwys er gwybodaeth; i asesu effaith y cyfarwyddyd cynllunio atodol ar ynni gwynt ar y tir a fabwysiadwyd yn Ionawr 2013 ac mewn ymateb i lythyrau a dderbyniwyd yn dilyn y penderfyniad i roi caniatâd cynllunio.  Roedd yr adroddiad yn delio â’r materion hyn mewn manylder.  Gofynnir i’r pwyllgor yn awr ddod i benderfyniad ynglŷn â safle’r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â’r apêl.  Roedd y Swyddogion yn ystyried bod y cynnig yn dderbyniol o ran yr egwyddor o ddatblygu; mwynderau gweledol a phreswyl, fflachiadau cysgodion/golau yn cael ei adlewyrchu, sŵn a’r effaith ar yr AHNE.  Tra bod Swyddogion yn cydnabod y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith yn lleol ac y byddai’n strwythur amlwg nid oeddynt yn barnu bod yr effeithiau hynny yn ormodol.  Argymhelliad gwreiddiol y Swyddog oedd caniatáu a’r argymhelliad yn y cyfarfod hwn yw y dylid hysbysu’r Arolygiaeth Cynllunio nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dymuno gwrthwynebu’r apêl ac os yw’r Arolygiaeth yn bwriadu caniatáu’r apêl, bod yr amodau a geir yn yr adroddiad yn cael eu gosod ar y caniatâd. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w benderfynu oherwydd bod yr hawl i benderfynu bellach yn gorwedd gyda’r Arolygiaeth Gynllunio.  Gofynnir i’r Pwyllgor roi arweiniad ar y safiad sydd i’w gymryd mewn perthynas â’r apêl.  Roedd argymhelliad y Swyddog yn parhau i fod yn un o ganiatáu ond ers hynny fe gafwyd newidiadau drwy’r CCA er nad yw’r rhain yn effeithio ar yr argymhelliad.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd ar y mater hwn,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Dyddiadau Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion 2013/14 pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am 2013/14.

Cofnodion:

Cyflwynwyd dyddiadau’r Cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion  am 2013/14 er gwybodaeth.

 

Ceisiodd yr Aelodau eglurhad ynghylch newid amser dechrau’r Pwyllgor o 1 i 2:00 p.m.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod baich gwaith y pwyllgor wedi lleihau mewn misoedd diweddar a’i bod felly yn briodol fod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cychwyn ar yr un amser â phrif gyfarfodydd eraill y Cyngor h.y.  2 o’r gloch y prynhawn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod amser cychwyn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn mynd yn ôl i 1 o’r gloch y prynhawn ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd –

 

·      Nodi dyddiadau’r cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am 2013/14.

·         Bod cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cychwyn am 1 o’r gloch prynhawn fel o’r blaen.