Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 3ydd Gorffennaf, 2013 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Penderfyniad:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Penderfyniad:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-

 

Y Cynghorydd W. T. Hughes yng nghyswllt cais 6.1

Y Cynghorydd John Griffith yng nghyswllt cais rhif 7.1

Y Cynghorydd Kenneth P. Hughes yng nghyswllt cais rhif 13.1

 

Datganodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddiddordeb personol oherwydd bod maniffesto Plaid Cymru yn gwneud sylwadau yng nghyswllt tyrbinau gwynt. Dywedodd yr Aelodau y byddent yn ystyried pob cais ar ei rinweddau cynllunio.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 159 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5ed Mehefin, 2013.

Penderfyniad:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2013.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 82 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd a gafwyd ar 19 Mehefin, 2013.

Penderfyniad:

Cadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2013.

 

5.

Y Cyhoedd yn Siarad

Penderfyniad:

Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol i siarad ar geisiadau 7.1 a 10.1.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 1 MB

6.1  20LPA962/CC – Fron Heulog, Cemaes

6.2  41C8CGarnedd Ddu, Star

6.3  46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a  Kingsland, Caergybi

Penderfyniad:

6.1  20LPA962/CC – Cais ol weithredol ar gyfer y trac cafodd ei wneud yn ddiweddar ynghyd a gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Fron Heulog, Cemaes

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol

 

6.2  41C8C – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y tir er mwyn lleoli 33 o garafannau symudol, codi bloc toiled, creu mynedfa i gerbydau ynghyd a thirlunio yn Garnedd Ddu, Star

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ar ofyn y Swyddogion.

 

6.3  46c427K/TR/EIA/ECON – Cais gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull mynediad, ar gyfer :

Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys cabannau a bythynnod newydd; Adeilad canolbwynt canolog newydd gan gynnwys derbynfa, cyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr dan do, bowlio deg a neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai a siopau; adnewyddu ac ymestyn adeiladau ar y stad ar gyfer Marchnad Ffermwyr; lle chwarae dan do i blant, Sba gyda gym a chyfleusterau newid, addasu adfeilion yr hen Dy Cychod yn fwyty wrth y traeth, Darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r llwybr arfordirol gan gynnwys: Rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar i goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; Creu trywydd cerfluniau newydd trwy goetir a llwybrau pren a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; Bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres cyfun. Codi llety pentref hamdden sydd wedi eu dylunio

i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 315 o gabanau i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer 2000 o weithwyr adeiladu; Adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; Cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; Gwesty newydd; Adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, siopau a bar; Cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Chanolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad ansawdd uchel i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: cabanau ac adeiladau cyfleusterau wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o gabanau i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Canolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr. Datblygiad preswyl gyda hyd at 360 o dai wedi eu gosod ar dir agored, wedi’i dirlunio yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi. Bydd pob cam o’r datblygiad yn cynnwys lle parcio, mannau gwasanaeth, llecynnau agored a gwaith plannu ym  ...  view the full Penderfyniad text for item 6.

7.

Ceisiadau yn codi o’r Cofnodion pdf eicon PDF 1 MB

7.1  19C313A – Stad Pentrefelin & Waenfawr, Caergybi

7.2  34LPA121Q/CC –Ysgol Gyfun Llangefni , Llangefni

Penderfyniad:

7.1  19C313A – Cais amlinellol ar gyfer codi 22 annedd ynghyd a chreu mynedfa newydd ar dir rhwng  Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar ymwneud Cytundeb Adran 106 fel oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad.

 

7.2  34LPA121Q/CC – Codi uned i gadw boiler biomass llosgi peledi coed yn gystylltiedig a’r ysgol newydd sydd yn cael ei chodi ar dir yn Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni

 

Eitem i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

9.

Ceisiadau Tai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

10.

Ceisiadau’n Tynnu’n Groes i Bolisi pdf eicon PDF 535 KB

10.1  42C321 – Y Sidings, Pentraeth

Penderfyniad:

10.1  42C231 – Cais llawn i godi 13 annedd newydd ynghyd a creu mynedfa newydd ar dir yn The Sidings, Pentraeth

 

PENDERFYNWYD y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Pwyllgor ddod yn gyfarwydd â’r safle.

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 938 KB

12.1  21C84EDrogan, Llanddaniel

12.2  33LPA981/CC – Fron Capel, Gaerwen

12.3  45C429/AD – Ynys Llanddwyn

Penderfyniad:

12.1  21C84E – Cais llawn ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Drogan, Llanddaniel

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

12.2  33LPA981/CC –Cais llawn i ddymchwel to fflat presennol ynghyd ag addasu ag ehangu yn Fron Capel, Gaerwen

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

12.3  45C429/AD – Cais i osod 4 panel dehongli ar dir yn Ynys Llanddwyn

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 3 MB

13.1  38C185C – Maes Mawr, Llanfechell

Penderfyniad:

13.1  38C185C –Cais llawn ar gyfer codi un twrbin gwynt gyda uchder hwb hyd at uchafswm o 24.6m, diamedr rotor hyd at 19.2m a uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.2m ar dir yn Maes Mawr, Llanfechell

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel y gallai’r Pwyllgor weld y safle.