Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Nodyn: .
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Cofnodion: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-
Y Cynghorydd Raymond Jones mewn perthynas â chais 7.4 – Aelod Lleol.
Y Cynghorydd John Griffith mewn perthynas â chais 7.4 (diddordeb personol)
Gwnaeth y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes and Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb personol ar y sail bod maniffesto Plaid Cymru yn cynnwys pwyntiau mewn perthynas â thyrbinau gwynt ond dweud y buasent yn rhoi sylw i bob cais yn ôl eu rhinweddau Cynllunio.
Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts, yr Aelod Portffolio (Cynllunio) ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 7.3, er nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor.
|
|
Cyflwno i’w cadarnhau, cofndion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 2 Hydref, 2013. Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2013.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2013. Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2013.
|
|
Siarad Cyhoeddus Cofnodion:
Roedd siaradwyr cyhoeddus ar gyfer ceisiadau 7.3, 11.1, 12.1, 12.2 a 12.6.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio 6.1 - 30C713 – Bryn Mair, Llanbedrgoch 6.2 – 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni 6.3 - 42C114A – Tai’n Coed, Pentraeth 6.4 - 44C294 – Plas Newydd, Rhosybol Cofnodion: 6.1 30C713 - Codi un tyrbin gwynt 10KW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 15.5m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 7.5m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 19.25m ar dir ger Bryn Mair, Llanbedrgoch
Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygu tyrbinau gwynt. Argymhelliad y Swyddog oedd gohirio’r cais fel bod modd cael rhagor o drafodaethau.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.2 35C553A - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd a rhwydwaith cysylltiol yn Nhy’n Coed, Llangefni
Roedd y cais yn un oedd yn tynnu’n groes ac yn un yr oedd y swyddogion o blaid ei ganiatáu. Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor bod y swyddog yn argymell gohirio’r cais fel bod modd ymgynghori ymhellach ynghylch ffigurau cyflenwadau tai a chael cyfraniad yr adran addysg. PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.3 42C114A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod tanc septig yn Nhai’n Coed, Pentraeth
Argymhelliad y Swyddog oedd gohirio’r cais er mwyn edrych trwy ohebiaeth ychwanegol sydd wedi’i derbyn.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. 6.4 44C294B - Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 20kW gydag uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 27.1m ar dir yn Mhlas Newydd, Rhos-y-bol
Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygu tyrbinau gwynt. Argymhelliad y Swyddog oedd gohirio’r cais er mwyn edrych trwy ohebiaeth ychwanegol sydd wedi’i derbyn.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
|
|
7.1 – 16C119B – Pen yr Orsedd, Engedi 7.2 - 39C285D – Lôn Gamfa, Porthaethwy 7.3 - 46C147D – Tan y Graig, Bae Trearddur
7.4 - 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos Cae Glas a Kingsland, Caergybi (NODER : BYDD Y CAIS YMA YN CAEL EI DRAFOD GAN Y PWYLLGOR AM 2.30 p.m.) Cofnodion: 7.1 16C119B - Cais llawn i godi adeilad i ddarparu gweithdy a swyddfa ym Mhen yr Orsedd, Engedi
Adroddwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2013 y penderfynwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan mai’r gred oedd y buasai’n diogelu a chadw cyflogaeth yn lleol ac ar yr Ynys.
Ategodd y Cynghorydd Bob Parry OBE, Aelod Lleol, ei gefnogaeth i’r cais hwn gan mai gweithdy bychain ar gyfer saer coed oedd. Dywedodd mai dymuniad yr ymgeisydd oedd cael gweithio yn ymyl ei gartref a chyflogi prentis yn y dyfodol.
Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes y dylid cadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaed i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gydag amod ychwanegol y bydd y gweithdy a’r swyddfa ar gyfer defnydd yr ymgeisydd ei hun fel saer coed.
7.2 39C385D – Cais llawn i godi 17 o dai ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy
Adroddwyd bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael gwybod am y cais gan ei fod yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu yr oedd Swyddogion o blaid ei ganiatáu. Ymwelodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion â’r safle ym mis Ionawr 2013 ac ymwelodd yr Aelodau presennol â’r safle ar 16 Hydref 2013.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R.O. Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
7.3 46C147D - Cais ôl-weithredol i ddefnyddio padog fel safle ar gyfer carafanau symudol a chadw’r ddau gynhwysydd a ddefnyddir fel bloc toiledau a chawodydd, defnyddio’r tir a chadw’r llecyn caled i storio carafanau, cychod a threlars ar sail fasnachol, defnydd preswyl o un garafán deithiol a chadw’r portacabin a ddefnyddir fel swyddfa ynghyd â gosod gwaith trin carthion a ffos gerrig newydd yn lle’r tanc septig yn Nhan y Graig, Trearddur
Adroddwyd bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael gwybod am y cais ar gais Aelod Lleol. Ymwelodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion â’r safle ar 2 Hydref 2013.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Iain Hodgson, gwrthwynebydd i’r cais, annerch y cyfarfod.
Y prif bwyntiau a godwyd gan Mr Hodgson oedd ei fod wedi rhoi gwybod am y cais ôl-weithredol hwn ddwy flynedd a hanner yn ôl. Roedd y fynedfa i’r safle ar gornel ddrwg a chafwyd nifer o ddamweiniau yn y cyffiniau dros y blynyddoedd. Roedd yn bryderus nad oedd yr Adran Briffyrdd wedi gwrthwynebu’r cais.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Elfed Williams, asiant yr ymgeisydd, annerch y cyfarfod.
Y prif bwyntiau a godwyd gan Mr Williams oedd bod yr ymgeisydd yn fodlon plannu dau gant o goed fel cylchfa ragod ynghyd â lledu’r fynedfa i’r safle a fydd yn caniatáu i ddau gar gyda charafán basio’i gilydd. Cytunodd y bu damweiniau yn y cyffiniau ond nid mewn cysylltiad uniongyrchol â’r safle hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nidystyriwyd unrhyw gais economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau Tai Fforddiadwy Dim i’w hytyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nidystyriwyd unrhyw gais economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hytyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nidystyriwyd unrhyw gais economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion 11.1 – 45C438 – Bryn Gwyn, Niwbwrch. Cofnodion: 11.1 45C438 – Cais Cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi annedd, adeiladu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Bryn Gwyn, Niwbwrch.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel oedd yn ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Nodwyd bod y Cynghorydd P Rodgers, Aelod Lleol yn gofyn cael gohirio’r cais gan nad oedd yr ymgeisydd yn medru bod yn y cyfarfod.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R.O. Jones.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais ar gais yr Aelod Lleol.
|
|
12.1 – 10C118A/RE – Bryn yr Odyn, Soar 12.2 – 14C135A – Glasfryn, Tyn Lon 12.3 – 14C28G/1/ECON – Parc Ddiwydiannol Mona 12.4 – 14C28H/1/ECON – Plot 14, Parc Ddiwydiannol Mona 12.5 – 19C1052C – Clwb RNA, Ffordd Dewi Sant, Caergybi 12.6 – 28C483 – Sea Forth, Ffordd Warren, Rhosneigr 12.7 – 40C315B – Wylfan Moelfre Cofnodion: 12.1 10C118A/RE – Cais llawn ar gyfer lleoli fferm arae heulol 15MW ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Gofynnodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ann Griffith, Aelod Lleol am gael ymweld â’r safle gan fod asesiad o’r tirlun yn ofynnol a bod fferm area solar 1.6 cilomedr yn unig o’r safle oedd wedi’i ganiatáu. Rhaid oedd asesu’r effaith gynyddol.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes ymweld â’r safle ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
12.2 14C135A – Cais llawn i godi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod gwaith trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lôn
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mrs Angharad Crump, yr ymgeisydd, annerch y Pwyllgor.
Y prif bwyntiau a godwyd gan Mrs Crump oedd y dylid caniatáu’r cais dan Bolisi 50 a HP5 sy’n caniatáu anheddau unigol ar safleoedd mewnlenwi, yn agos i ran datblygu pentrefi bychain a chlwstwr gwledig, gyda Llynfaes eisoes wedi’i nodi. Fel teulu, roeddynt yn dymuno codi cartref yn eu cymuned leol ac yn agos i’w teulu. Roedd Swyddogion Polisi Cynllunio wedi dweud bod y plot yn rhan o glwstwr gwledig yn y Polisi Cynllunio Dros Dro ar gyfer Clystyrau Gwledig. Ar hyn o bryd, roedd y fynedfa bresennol yn cael ei defnyddio gan beiriannau amaethyddol, ceir a thraffig busnes ac ni wyddys am ddamweiniau a gafwyd yn yr ugain mlynedd diwethaf. Fel ymgeiswyr, roeddynt yn fodlon torri’r coed ar y safle fel bod modd gweld yn well.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Bob Parry OBE, un o’r aelodau lleol, annerch y Pwyllgor.
Dywedodd y Cynghorydd Parry ei fod yn cefnogi’r cais. Holodd y Swyddogion Priffyrdd ynghylch y materion a godwyd gan Mrs Crump yng nghyswllt y fynedfa i’r safle. Ymatebodd y Swyddogion Priffyrdd gan ddweud eu bod yn derbyn bod y fynedfa i’r safle’n cael ei defnyddio gan gerbydau eraill ond ei bod yn is-safonol. Cafwyd cyfarfod cyn cyflwyno’r cais ynghylch mynedfa newydd i’r annedd ond roedd y Swyddogion Priffyrdd o’r farn y buasai’n annerbyniol.
Cynigiodd y Cynghorydd T Victor Hughes ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.
Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, T Victor Hughes, Vaughan Hughes, R O Jones o blaid y cais. Ymataliodd y Cynghorydd Jeff Evans ei bleidlais.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ar y sail ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 oherwydd ei fod mewn clwstwr. (Ni phleidleisiodd y Cynghorydd N. Roberts gan ei bod yn Aelod Lleol).
Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 – 34C40Z/EIA/ECON – Peboc, Stad Ddiwydiannol Llangefni 13.2 – 38C267B – Clegyrog Uchaf, Carreglefn 13.3 – 38C292C – Fferm Rhosbeirio, Rhosgoch Cofnodion: 13.1 34C40Z/EIA/ECON – Codi Gwaith Ynni Biomas newydd yn cynnwys gwaith peledi pren, gwaith ynni biomas gwres cyfun, peiriannau tynnu rhisgl a naddu pren, iard storio coed ac adeiladu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Peboc, Stad Ddiwydiannol Llangefni
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth a chytuno i beidio â herio’r ddau reswm dros wrthod fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
13.2 38C267B - Cais llawn ar gyfer codi dau dyrbin gwynt 20kW hyd at 20.5m o uchder, rotor hyd at 13.1 ar ei draws a hyd at 27.1m i flaen unionsyth y llafn a gwaith cysylltiedig ar dir yng Nghlegyrog Uchaf, Carreglefn
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth a chytuno bod y Swyddogion yn amddiffyn apêl am y rhesymau a roddwyd.
13.3 38C292C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt 500kW hyd at 50 metr o uchder, rotor o hyd at 58 metr ar ei draws a hyd at 79m i flaen unionsyth y llafn ynghyd ag isadeiledd trydanol cysylltiedig, cysylltiad â’r grid a gwelliannau i’r fynedfa bresennol i gerbydau a thraciau mynediad newydd ar dir yn Fferm Rhosbeirio, Rhos-goch
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth a chytuno bod y Swyddogion yn amddiffyn apêl am y rhesymau a roddwyd.
|
|
14.1 Gorchymyn Cyngor Sir Ynys Môn (Llefydd Parcio oddi ar y Stryd)(Meysydd Parcio Amrywiol Ynys Môn)(1) 2013
Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod. Cofnodion: 14.1Gorchymyn Cyngor Sir Ynys Môn (Llefydd Parcio oddi ar y Stryd) (Meysydd Parcio Amrywiol yn Ynys Môn)(1) 2013
Cyflwynwyd – adroddiad yng nghyswllt gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu’r Gorchymyn Llefydd Parcio oddi ar y Stryd arfaethedig.
Roedd aelodau o’r farn bod gofyn cynnal Asesiad o’r Effaith cyn bod modd i’r Pwyllgor ystyried yr adroddiad.
PENDERFYNWYD gohirio’r adroddiad.
|