Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheuriadau fel a nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Cofnodion: Ni dderbyniwyd datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ionawr, 2014. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ionawr, 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Ymweliad Safleoedd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarod hwn. |
|
Siarad Cyhoeddus Cofnodion: Dim siarad cyhoeddus yn y cyfarfod hwn. |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 727 KB 6.1 14C135A – Glasfryn, Tyn Lon 6.2 37C187 – Bryn Garth, Brynsiencyn 6.3 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy 6.4 42C114A – Tai’n Coed, Pentraeth 6.5 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol Cofnodion: 6.1 14C135A – Cais llawn ar gyfer codi annedd a modurdy preifat, chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lon
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.2 37C187 – Cais amlinellol i godi annedd gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ynghyd ag addasu y fynedfa presennol ar dir ger Bryn Garth, Brynsiencyn
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2013 wedi penderfynu gohirio ystyried y cais er mwyn ymchwilio a ellid ystyried y cynnig o dan y polisi safle o eithriad fel annedd fforddiadwy. Ni dderbyniwyd unrhyw ymateb gan yr ymgeisydd hyd yn hyn. Roedd yr Aelodau o’r farn y dylid dweud wrth yr ymgeisydd y byddir yn delio â’r cais yn y cyfarfod nesa os na fydd unrhyw ymateb wedi ei dderbyn.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.3 41C125B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer codi tri twrbin wynt 800kW – 900kW gyda uchder hwb hyd at uchafswm o 55m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 52m a uchder blaen unionsyth hyd at uchafswm o 81m, gwelliannau i’r fynedfa presennol i lôn A5025, ynghyd â chodi 3 cabinet storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.4 42C114A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod tanc septig yn Tai’n Coed, Pentraeth
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.5 44C294B – Cais llawn ar gyfer dau dwrbin gwynt 20kW gyda uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 27.1m ar dir yn Plas Newydd, Rhosybol
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Ceisiadau yn Codi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.
|
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.
|
|
12.1 11C607 – Sgwâr Dinorben, Amlwch 12.2 23C309A – Bron Haul, Talwrn 12.3 34LPA991/CC – 44-52 Bryn Meurig, Llangefni 12.4 34LPA991A/CC – 53-62 Bryn Meurig, Llangefni 12.5 46C263M – Parc Carafannau Ty’n Towyn, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur 12.6 47C102A – Clwchdernog Bach, Llanddeusant Cofnodion: 12.1 11C607 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad presennol o doiledau cyoeddus i uned arlwyo yn Sgwar Dinorben, Amwlch
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o’r tir ym mherchenogaeth y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.2 23C309A – Cais amlinellol gyda’r materion i gyd wedi’u cadw’n ôl ar gyfer annedd unllawr a garej ar dir ger Bron Haul, Talwrn
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd R.G. Parry OBE fel Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, fel Aelod Lleol, bod safle’r cais y tu allan i ffin pentref Talwrn a’i fod yn gyfagos i 12 annedd arall. Roedd o’r farn y dylai’r cais hwn gael ei drin fel cais mewnlenwi a’i nodi fel clwstwr. Roedd yr ymgeisydd yn siaradwr Cymraeg a byddai caniatáu’r cais hwn o fudd i gymuned fechan fel Talwrn er mwyn diogelu’r iaith Gymraeg. Roedd y cais yn cydymffurfio â Pholisi 50 ac felly ni fyddai’n tarfu ar fwynderau’r ardal. Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at wrthwynebiad yr Awdurdod Priffyrdd i’r cais oherwydd bod y gwelededd yn y fynedfa yn is-safonol. Nododd bod 6 annedd arall a busnes sy’n defnyddio’r gyffordd hon; roedd o’r farn na fyddai un annedd arall yn cynyddu’r defnydd gan draffig yn sylweddol. Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.
Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod y ffordd breifat sy’n arwain i’r safle yn cael ei gwasanaethu gan gyffordd is-safonol a hefyd y gwelededd i’r briffordd gyhoeddus sydd ond tua 5 i 10m. Awgrymodd y Swyddog y dylai’r ymgeisydd ystyried cael mynedfa arall i’r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd Ann Griffith y cynnig.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.3 34LPA991/CC – Cais llawn i godi ports a drws diogelwch yn 44-52 Bryn Meurig, Llangefni
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod y cais ar dir y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.4 34LPA991A/CC – Cais llawn i godi ports a drws diogelwch yn 54-62 Bryn Meurig, Llangefni
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod y cais ar dir y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig. ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 38C277B – Caerdegog Uchaf, Llanfechell
Cofnodion: 13.1 38C277B – Cais llawn ar gyfer codi twrbin gwynt 50kW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 24.6m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 19.2m a uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.2m ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir yn Caerdegog Uchaf, Llanfechell
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
(1) Adrodd bod y Cyngor Sir yn dilyn ystyried yr uchod wedi penderfynu fel a ganlyn :-
· ‘I gefnogi galw rhai cyfarfodydd (Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r ddau Pwyllgor Sgriwtini) am 4.00 p.m., a 4.30 p.m., a bod trefniadau’n cael eu trafod gyda’r Cadeiryddion ac Aelodau’r Pwyllgorau perthnasol a bod adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf a drefnwyd o’r Cyngor ar 27 Chwefror, 2014;
· Nodi canfyddiadau’r asesiad effaith cydraddoldeb cychwynnol;
· Bod trefniadau’n cael eu treialu am gyfnod o 12 mis gan ddechrau yn Ebrill 2014.’
(2) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.
(3) Rhoi ystyriaeth i’r uchod.
Cofnodion: (1) Adrodd bod y Cyngor Sir yn dilyn ystyried yr uchod wedi penderfynu fel a ganlyn :-
· ‘I gefnogi galw rhai cyfarfodydd (Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r ddau Pwyllgor Sgriwtini) am 4.00 p.m., a 4.30 p.m., a bod trefniadau’n cael eu trafod gyda’r Cadeiryddion ac Aelodau’r Pwyllgorau perthnasol a bod adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf a drefnwyd o’r Cyngor ar 27 Chwefror, 2014;
· Nodi canfyddiadau’r asesiad effaith cydraddoldeb cychwynnol;
· Bod trefniadau’n cael eu treialu am gyfnod o 12 mis gan ddechrau yn Ebrill 2014.’
(2) Cyflwynwyd a nodwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd Dro Dro.
PENDERFYNWYD yn unfrydol y dylai’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion barhau i ddechrau am 1.00 p.m.
|