Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 5ed Mawrth, 2014 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb a’u nodi fel uchod.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at absenoldeb yr Is-Gadeirydd a gofynnodd i’r Pwyllgor a oedd yn dymuno penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn.  Barnodd yr Aelodau nad oedd angen gwneud hynny.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion Cyfarfod 5 Chwefror pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2014.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 122 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 19 Chwefror, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2014.

 

Tynnodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio sylw’r Pwyllgor at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau’r chweched argraffiad o Bolisi Cynllunio Cymru ers i’r adroddiadau ar gyfer cyfarfod heddiw gael eu drafftio.  Oherwydd bod y newidiadau yn yr argraffiad diweddaraf o’r Polisi Cynllunio Cymru yn ymwneud yn bennaf â materion rheoli gwastraff, roedd Swyddogion Cynllunio’n fodlon nad oedd angen adolygu’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau o ganlyniad.

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Aelodau o’r Cyhoedd yn Siarad yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 613 KB

6.1  37C187 – Bryn Garth, Brynsiencyn

 

6.2  41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

 

6.3  42C114A – Tai’n Coed, Pentraeth

 

6.4  44C 294B – Plas Newydd, Rhosybol

Cofnodion:

6.1 37C187 – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi annedd ynghyd a gwaith altro i’r fynedfa bresennol ar dir ger Bryn Garth, Brynsiencyn

 

Adroddwyd a nodwyd bod y cais wedi ei dynnu yn ôl.

 

6.2 41C125B/EIAL/RE – Cais llawn i godi tri tyrbin gwynt 800kw-900kw gydag uhafswm uchder hwb o  hyd at 55m, diametr rotor o hyd at 52m ac uchafswm uchder i flaen y llafn o hyd at 81m, gwneud gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r A5025 ynghyd â chodi tri cabinet ar gyfer cadw offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau oedd i’w gweld yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.3 42C114A – Cais amlinellol i godi annedd amaethyddol ynghyd â gosod tanc septig yn Tai’n Coed, Pentraeth

 

Adroddwyd a nodwyd bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

 

6.4 44C294B – Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 20kw gydag uchafswm uchder hwb o 20.5m, diametr rotor o 13.1m ac uchafswm uchder i flaen y llafn o 27.1m ar dir yn Plas Newydd, Rhosybol

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau oedd i’w gweld yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 574 KB

7.1 14C135A – Glasfryn, Ty’n Lon

 

7.2 46C263M – Parc Carafannau Ty’n Towyn, Lôn St Ffraid, Trearddur

Cofnodion:

7.1 14C135A – Cais llawn i godi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod gwaith trin carthffosiaeth ar dir yn gyfagos i Glasfryn, Ty’n Lon

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R G Parry OBE.  Roedd y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2013 wedi penderfynu caniatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd bod y Pwyllgor o’r farn ei fod yn cydymffurfio â Pholisi PT2 mewn perthynas â chlystyrau gwledig a Pholisi 50 o Gynllun Lleol Ynys Môn.  Yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2013 trafodwyd y rhesymau dros ganiatáu'r cais ac yn dilyn hynny fe benderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn caniatáu i Swyddogion Cynllunio ymgynghori gyda'r ymgeisydd ynglŷn â darparu tystiolaeth bod angen tŷ fforddiadwy.  Roedd y broses ymgynghori bellach wedi dod i ben ac roedd gwybodaeth bellach wedi ei darparu gan yr ymgeisydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor - ers i'r adroddiad ysgrifenedig gael ei drafftio roedd yr ymgeiswyr wedi cadarnhau eu bod yn barod i dderbyn cytundeb Adran 106 a thrwy hynny ddarparu’r peirianwaith ar gyfer sicrhau y byddai’r annedd arfaethedig yn parhau yn un fforddiadwy yn unol â gofynion Polisi PT2.  Felly, yr unig wrthwynebiad i'r cais ar sail cynllunio yw nad yw’r gwelededd ymlaen i'r briffordd gyhoeddus yn ddigonol o'r fynedfa sy'n gwasanaethu'r safle gyda’r Swyddogion Priffyrdd yn tybio ei bod yn is-safonol oherwydd nad yw ond hanner yr hyn sy’n cael ei awgrymu o dan y cyfarwyddyd presennol.  Safbwynt yr Awdurdod Priffyrdd oedd y byddai’r cynnydd yn y defnydd o'r fynedfa is-safonol ar gyfer defnyddwyr preswyl yn gallu bod yn andwyol i ddiogelwch y ffordd.  Yng ngoleuni’r cyngor proffesiynol a roddwyd gan y Swyddog Priffyrdd, dywedodd y Swyddog bod yr argymhelliad yn parhau yn un o wrthod y cais ond am resymau diogelwch y briffordd.

 

Nododd y Cynghorydd Nicola Roberts, gan siarad fel Aelod Lleol, pan fu i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais ym mis Tachwedd 2013 a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog, ac i’r rhesymau am wneud hynny gael eu trafod yn y cyfarfod dilynol ym mis Rhagfyr, mai prif reswm dros wrthwynebu oedd un o gydymffurfio gyda pholisi ar sail fforddiadwyedd.  Roedd y mater hwnnw bellach wedi ei ddatrys; roedd y Swyddogion Priffyrdd wedi gweld y safle - roedd dau swyddog wedi bod allan ac wedi rhoi safbwyntiau gwahanol.  Roedd y Cynghorydd Roberts am atgoffa’r Pwyllgor mai cwpl ifanc oedd yr ymgeiswyr fydd yn cyfrannu tuag at y gymuned.  Pwysleisiodd bod y fynedfa i'r safle eisoes yn cael ei ddefnyddio gan breswylwyr rhai anheddau eraill yn y parthau a’i bod hefyd yn gwasanaethu fferm ac yn fwy diweddar siop.  Dywedodd ei bod yn annhebygol iawn y byddai un annedd arall yn cael effaith fawr ar y sefyllfa priffyrdd a’i bod yn nhermau ystyriaethau priffyrdd yn fater o farn broffesiynol oedd yn wahanol.  Gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim yn y cyfarfod hwn.

 

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim yn y cyfarfod hwn.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim yn y cyfarfod hwn.

 

11.

Cynigion a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim yn y cyfarfod hwn.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 914 KB

12.1 19C1046C/LB – Soldiers Point, Caergybi

 

12.2 19LPA992/CC – 9 Stryd Stanley, Caergybi

 

12.3 33C302 – Penffordd, Gaerwen

 

12.4 34LPA993/AD/CC – Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

Cofnodion:

12.1 19C1046C/LB – Cais am ganiatad adeilad rhestredig i ddymchwel rhan o’r ty yn Soldiers Point, Cergybi

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ofyn un o’r Aelodau Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd J Arwel Roberts, Deilydd Portffolio Cynllunio ac Aelod Lleol am gynnal ymweliad safle er mwyn gallu bod yn glir ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei gynnig oherwydd bod y mater yn un cynhenus yng Nghaergybi.  Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn bryderus oherwydd y diffyg ymateb gan fwyafrif o’r cyrff cadwraeth yr ymgynghorwyd â hwy ar y mater hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â’r cais a wnaed gan un o’r Aelodau Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2 19LPA992/CC – Cais llawn i newid dwy o’r ffenenstri presennol ar lawr cyntaf ac ail yn y  ffrynt gyda ffenestri coed sash traddodiadaol yn Dafydd Hardy, 9 Stryd Stanley, Caergybi

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn cael ei wneud gan yr Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 33C302 – Cais llawn i newid y defnydd o annedd (C3) i ran (A3) cludo bwydydd poeth i ffwrdd a rhan (C3) annedd ynghyd â chreu lle parcio ychwanegol yn Penffordd, Gaerwen

 

Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Aelodau weld drostynt eu hunain leoliad safle’r cais a’r materion oedd yn codi yng nghyswllt diogelwch y briffordd.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes bod y Cyngor Cymuned hefyd o blaid cynnal ymweliad safle.  Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â’r cais a wnaed gan yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.4 34LPA993/AD/CC – Cais i godi 31 o wahanol arwyddion ar draws Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor Sir oedd yn cyflwyno’r cais ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hi gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion eraill i’w hystyried yn y cyfarfod.

 

14.

Gorchmynion pdf eicon PDF 317 KB

14.1 Cyngor Sir Ynys Môn - Cymeradwyaeth i Gyflwyno Gorchymyn Pryniant Gorfodol

 

Cofnodion:

14.1 Cyngor Sir Ynys Môn - Caniatâd i Wasanaethu Gorchymyn Pryniant Gorfodol.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod yr awdurdod i wasanaethu gorchmynion pryniant gorfodol yn gorwedd gyda’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion  a gofynnodd i’r Pwyllgor awdurdodi rhoi a dirprwyo rhoi allan y gorchymyn i’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

Penderfynwyd bod Gorchymyn Pryniant Gorfodol yn cael ei wasanaethu yng nghyswllt y tir a ddisgrifiwyd yn yr Atodlen i’r adroddiad a bod y Gorchymyn yn cael ei weithredu gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol o dan bwerau a ddarperir o dan Adran 3.4.3.9 o Gyfansoddiad y Cyngor.