Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel a restrir uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganwyd diddordeb gan y canlynol:-
Datganodd Mr John Alun P Rowlands, Technegydd (Adran Priffyrdd) ddiddordeb yn Eitem 7.1 (diddordeb personol);
Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yn eitemau12.3 a 12.6.
Datganodd y Cynghorydd R G Parry, OBE ddiddordeb yn eitem 11.2. |
|
Cofnodion y cyfarfod ar 4 Mehefin 2014 Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mehefin, 2014. Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2014. |
|
Ymweliadau Safle ar 18 Mehefin 2014 Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 18 Mehefin, 2014. Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion yr ymweliadau safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Mehefin, 2014. |
|
Siarad Cyhoeddus Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai siaradwyr cyhoeddus yng nghyswllt ceisiadau 12.7 a 12.8.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr hawl i siarad ar gais 7.1 a rhoes wybod i’r Pwyllgor am ei phenderfyniad i beidio â chaniatáu rhagor o siarad cyhoeddus oherwydd y defnyddiwyd yr hawl i siarad yn y cyfarfod diwethaf. |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio 6.1 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy Cofnodion: 6.1 41C125B/EIA/RE - Cais llawn ar gyfer codi tri thyrbin gwynt 800kW-900kW gyda hwb hyd at 55m, rotor hyd at uchafswm o 52m ar ei draws a hyd at uchafswm o 81m i flaen y llafn, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r A5025, ynghyd â chodi 3 chabinet storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
7.1 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona
7.2 29LPA996/CC – Maes Maethlu, Llanfaethlu
7.3 46C38S/ECON – Sea Shanty House, Lôn St.Ffraid, Trearddur
Cofnodion: 7.1 22C40A – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a’r modurdy a chodi annedd a modurdy newydd, codi stablau, gosod system trin carthffosiaeth ac addasu’r fynedfa bresennol yn Cae Maes Mawr, Llanddona
Roedd y cais yn dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn gan ddau o’r Aelodau Lleol. Cynhaliwyd ymweliad safle ar 18 Mehefin 2014.
Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn aeth Mr John Alun Rowlands, Technegydd Priffyrdd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor yn bwriadu gwrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog, ac roedd y cais yn awr gerbron y Pwyllgor i’w ailystyried. Dywedodd y Swyddog bod yr Adran Gynllunio wedi ymateb i’r rhesymau dros wrthod, ond gan barhau i argymell y dylid caniatáu’r cais.
Gofynnodd Aelod Lleol, y Cynghorydd Carwyn Jones am i’r Pwyllgor lynu wrth y penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf a gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn:-
· Roedd Cyngor Cymuned Llanddona yn unfrydol yn ei farn yn erbyn codi tŷ mawr gyda 5 ystafell wely en-suite. · Mae’r datblygiad arfaethedig o fewn ardal AHNE; · Mae Polisi Cynllunio Cymru’n dweud y dylai’r AHNE gael yr un statws â Pharciau Cenedlaethol o ran materion tirwedd. · Mae’r safle i’w weld yn amlwg o Draeth Coch wrth edrych tuag at Llanddona; · Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod Aelodau Lleol o dan bwysau i wneud popeth o fewn eu pwerau i ddiogelu ardaloedd o fewn yr AHNE. · Mae’r cais hwn 87% yn fwy na’r annedd bresennol. · Mae’r traeth yn Draeth Baner Las.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Jones nad oedd y Cyngor Cymuned yn erbyn datblygu’r safle ond ei fod wedi dweud y dylai unrhyw annedd newydd weddu gyda’r ardal a’r dynodiad AHNE.
Rhoddodd y Cynghorydd Lewis Davies, fel Aelod Lleol grynodeb o’i gynnig o’r cyfarfod diwethaf i gefnogi’r penderfyniad fel yr oedd yn sefyll a gwrthod ailddatblygu oherwydd graddfa, uchder a dyluniad y datblygiad. Pwysleisiodd nad oedd yn erbyn datblygu’r safle, ond awgrymodd y dylid newid ac ailgyflwyno dyluniad a graddfa’r datblygiad arfaethedig. Dywedodd bod safbwyntiau Cyngor Cymuned Llanddona yn bwysig gan eu bod yn cynrychioli’r bobl leol a’r gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Davies ymhellach bod Swyddog AHNE y Cyngor wedi lleisio pryderon am yr effeithiau gweledol o’r traeth a’r llwybr arfordirol. Mae’r llwybr arfordirol yn bwysig iawn i dwristiaeth ond gallai hyn greu’r argraff bod y drws yn agored i unrhyw ddatblygiad yn yr ardal gadwraeth hon. Roedd y datblygwr wedi dweud bod y cynnig 40% yn fwy na’r annedd wreiddiol, ond ym marn y Pwyllgor roedd yn fwy na 90%. Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y tebygrwydd y ceid tirlithriadau pellach o ganlyniad i erydu yn yr ardal a dywedodd y dylid archwilio pob cais mewn manylder. Dywedodd ymhellach bod cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylid rhoi yr un statws i AHNE ag i Barciau Cenedlaethol. Gofynnodd y Cynghorydd Davies am i’r Pwyllgor lynu wrth yr un penderfyniad â’r un a wnaed yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
10.1 13C141B – Llain y Delyn, Bodedern
10.2 30C759 – Fairacre, Benllech
10.3 31C134E – Cae Cyd, Llanfairpwll Cofnodion: 10.1 13C141B - Cais llawn ar gyfer codi 3 phâr o dai pâr ar dir yn Llais y Delyn, Bodedern
Roedd y cais wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor oherwydd bod y safle yn un oedd wedi ei ddyrannu o dan Bolisi 14 a 38 Cynllun Lleol Ynys Môn. Roedd y cais yn un oedd yn groes i’r dynodiad hwn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cynnig o fewn ffin ddatblygu Bodedern a’i fod wedi ei neilltuo ar gyfer grin bowlio yn 1996. Dros y blynyddoedd, roedd hanner y cae wedi’i ddefnyddio fel tir datblygu ac roedd gweddill y tir yn addas ar gyfer adeiladu arno. Roedd Swyddog Tai Gwledig y Cyngor wedi cadarnhau bod angen am y math hwn o dai yn ardal Bodedern.
Roedd y Cynghorydd Ken Hughes fel Aelod Lleol yn cefnogi’r cais yn amodol ar wneud Cytundeb Adran 106 yng nghyswllt tai fforddiadwy.
Nododd y Cynghorydd John Griffith, fel Aelod Lleol bod problemau carthffosiaeth yn Bron y Graig.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 30C759 - Cais llawn ar gyfer codi annedd newydd ar dir ger Fairacre, Benllech
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn groes i’r Cynllun Datblygu Unedol.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.3 31C134E - Cais llawn i godi 5 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Cae Cyd, Llanfairpwll
Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor fel cais oedd yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn, ond fel un y gellid ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod cais tebyg am ganiatâd cynllunio amlinellol wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor ym mis Mai ac i ganiatâd gael ei roi. Dywedodd bod y cynnig hwn yn gais llawn ond ei fod yn flaenorol yn gais oedd yn groes i bolisi ac yn un oedd y tu allan i ffin ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol, ond o fewn y ffin yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Aeth ymlaen i egluro bod y cais hwn fel cais llawn yn cael ei drin fel cais newydd a bod yn rhaid delio ag ef fel cais newydd. Cyfeiriodd at y Pwyllgor Cynllunio ym mis Mai pryd y gwnaed cais i gymeradwyo 5 tŷ. Yr unig wahaniaeth yn awr yw edrychiad y tai a sut y byddent yn ffitio i mewn ar safle’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones fel Aelod Lleol y byddai rhai o’r anheddau newydd hyn yn edrych dros y tai eraill yn yr ardal.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at yr asesiad yn y cais amlinellol a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion
11.1 14C232B/VAR – Rhyd Ysbardyn Uchaf, Llangefni
11.2 16C199 – Swyddfa Bost, 38 38 Stryd Fawr, Bryngwran
11.3 37C174D – Tre-Ifan, Brynsiencyn Cofnodion: 11.1 14C232B/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (03) ar gais cynllunio cyfeirnod 14C232 (dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd) fel y gellir cyflwyno Tysysgrif Interim cyn i neb symud i mewn i’r annedd yn Rhyd Ysbardyn Uchaf, Llangefni
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol’ fel sy’n cael ei ddiffinio yn y Cyfansoddiad. Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan Baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 16C199 – Cais llawn i newid defnydd y Swyddfa Bost (dosbarth defnydd A1) yn annedd (dosbarth defnydd C3) yn y Swyddfa Bost, 38 Stryd Fawr, Bryngwran.
Datganodd y Cynghorydd Bob Parry ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod.
Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Gynghorydd. Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.3 37C174D - Cais llawn ar gyfer traciau fferm arfaethedig yn Tre-Ifan, Brynsiencyn
Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn fab i Aelod Lleol. Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r prif fater oedd yr effaith a gâi’r trac ar y dirwedd. Roedd yr Awdurdod Cynllunio yn fodlon na fyddai’r cais yn cael effaith niweidiol ar yr ardal. Roedd trafodaethau wedi eu cynnal gyda CADW i ddiogelu ac amddiffyn henebion oedd ar y safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
12.1 12C431C/LB – Gwynfa, Biwmares
12.2 19C792H – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
12.3 19LPA434B/FR/CC – Canolfan Jesse Hughes, Caergybi
12.4 19LPA999/CC – 1 Market Hill, Caergybi
12.5 19LPA1000/CC – 42-44 Stryd y Farchnad, Caergybi
12.6 19LPA1001/CC – Sinema yr Empire, 39 Stryd Stanley, Caergybi
12.7 31C14V/1 – 34 Cil y Graig, Llanfairpwll
12.8 36C328A – Bodafon, Llangristiolus
12.9 46C168A/FR – Trearddur House, Lôn St Ffraid, Trearddur
Cofnodion: 12.1 12C431C/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig i osod drysau Ffrengig yn lle’r ffenestr bresennol yn Gwynfa, Biwmares.
Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Rowlands, Aelod Lleol i’r cais gael ei gyflwyno’r flwyddyn ddiwethaf. Roedd rhan o’r cais yn un i addasu ystafell ym mlaen ac ar ochr yr adeilad fel y gellid cael mynediad i’r anabl. Roedd yr allanfa bresennol drwy’r drws ffrynt a’r bwriad yw gosod drws Ffrengig lle ceir ffenestr ar hyn o bryd. Roedd y drws o’r union batrwm a gytunwyd ar gyfer blaen y tŷ yn y cais blaenorol ar 7 Chwefror y flwyddyn hon. Nid yw gwaelod y ffenestr ond un droedfedd o’r llawr. Roedd Cyngor Tref Biwmares yn cefnogi’r cais.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn i symud y ffenestr sydd yno ar hyn o bryd a rhoi drws yn ei lle. Eglurodd nad oedd hwn yn gais cynllunio ond yn gais caniatâd adeilad rhestredig lle byddai CADW yn gwneud penderfyniad.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid caniatáu’r cais yn amodol ar newid chwareli’r drws yn unedau gwydro bychan fyddai’n gweddu gyda’r ardal. Eiliodd y Cynghorydd Raymond Jones y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD argymell i CADW fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddog ac yn unol â’r amodau y cytunwyd arnynt gan yr Aelodau.
12.2 19C792H - Cais llawn i newid defnydd garej a stordy yn llety byncws ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 19LPA434B/FR/CC – Cais llawn i atgyweirio’r adeiladau presennol, dymchwel yr estyniad cysylltiedig a chodi estyniad deulawr newydd yng Nghanolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi.
Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yn y cais hwn ac arhosodd yn y cyfarfod ond heb bleidleisio na chymryd rhan yn y mater.
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Fel Aelod Lleol, gofynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am i’r Pwyllgor ohirio’r cais oherwydd na chafwyd unrhyw ymgynghori ar y dechrau gyda’r Aelodau Lleol perthnasol ac roedd yn disgwyl hefyd am ymateb i gais am wybodaeth a oedd yn berthnasol i’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gohirio’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn disgwyl am ymateb i gais am wybodaeth gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes fel Aelod Lleol.
12.4 19LPA999/CC - Cais llawn ar gyfer codi plac yn 1 Market Hill, Caergybi
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor ei hun oedd yn gwneud y cais.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod. |