Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd Kenneth Hughes ddatganiad o ddiddordeb yng nghais 7.2. |
|
Cofnodion Cyfarfod 3 Medi, 2014 PDF 253 KB Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3ydd Medi, 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2014. |
|
Ymweliadau Safle Cynhaliwyd ymweliadau safle ar 17 Medi, 2014 mewn perthynas â’r ceisiadau canlynol:
· 42C9N – Cais llawn ar gyfer dymchwel y gweithdy, swyddfa ac ystafell arddangos bresennol, ehangu'r orsaf betrol, codi 2 uned mân-werthu nad ydynt yn gysylltiedig â bwyd a chreu parcio ychwanegol yn Pentraeth Services, Pentraeth. · 21C40A – Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a pit slyri ar dir ym Mhenryn Gwyn, Llanddaniel. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y cynhaliwyd ymweliadau safleoedd ar 17 Medi, 2014 mewn perthynas â’r ceisiadau isod:
• 42C9N – Cais llawn i ddymchwel y gweithdy, y swyddfa a’r ystafell arddangos bresennol, ehangu’r orsaf betrol, codi dwy uned adwerthu (dim bwyd) a darparu lle parcio ychwanegol yn Pentraeth Services, Pentraeth • 21C40A – Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir ger Penrhyn Gwyn, Llanddaniel |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2 a 12.3. |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 592 KB 6.1 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni
6.2 39C305B – 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy
6.3 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl gan gynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.2 39C305B – Cais llawn i altro ac ehangu 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy.
Penderfynwyd nodi bod y cais wedi cael ei dynnu’n ôl.
6.3 41C125B/EIA/RE – Cais llawn i godi tri thyrbin gwynt 800kw – 900kw hyd at 55 m o uchder, rotor hyd at 52m ar ei draws a hyd at 81m i flaen y llafn, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r A5025 ynghyd â chodi 3 chabinet i storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
7.1 21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel
7.2 42C9N – Pentraeth Services, Pentraeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 21C40A – Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir ger Penrhyn Gwyn, Llanddaniel
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai argymhelliad y Swyddog yn awr yw gohirio’r drafodaeth ar y cais a hynny oherwydd materion a ddaeth i law yn hwyr ac sydd angen eu trafod ymhellach gyda’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gohirio’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 Cais llawn i ddymchwel y gweithdy, y swyddfa a’r ystafell arddangos bresennol, ehangu’r orsaf betrol, codi dwy uned adwerthu (dim bwyd) a darparu lle parcio ychwanegol yn Pentraeth Services, Pentraeth
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol. Aeth Aelodau’r Pwyllgor i ymweld â safle’r cais ar 17 Medi, 2014.
Aeth y Cynghorydd Kenneth Hughes allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem oherwydd ei fod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Sandra Robinson Clark annerch y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i’r cais.
Dywedodd Ms Clark ei bod yn siarad ar ran ei chymdogion yn 73 i 78 Nant y Felin wrth gofrestru eu gwrthwynebiad cryf iawn i’r datblygiad arfaethedig a fyddai, oherwydd ei faint, uchder ac agosrwydd at y tai hyn, yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r sawl sy’n byw ynddynt. Cyfeiriodd at bryderon yn ymwneud â cholli preifatrwydd oherwydd nifer ychwanegol y ffenestri cefn ac uchel ar yr estyniad arfaethedig fel y cânt eu dangos ar y cynllun ac at golli golau dydd naturiol. Nid yw’r cynnig yn cymryd i ystyriaeth o gwbl yr olygfa o’r tai cyfagos a byddai’r datblygiad yn llethu’r tai hynny. Yn ogystal, byddai’r sŵn ychwanegol oherwydd y cynnydd yn y traffig y byddai’r cynnig yn ei greu yn cael effaith andwyol ar drigolion eiddo cyfagos. Byddai’r sŵn o’r unedau adwerthu hefyd yn gwaethygu’r sefyllfa.
Rhoddwyd i Aelodau’r Pwyllgor y cyfle i ofyn cwestiynau i Ms Clark. Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith am eglurhad ynghylch pwynt a wnaed yn y cyflwyniad mewn perthynas â diffyg cydymffurfiaeth â’r cynlluniau. Cadarnhaodd Ms Clark fod y pwynt hwnnw’n ymwneud â gosod ffenestri tryloyw yn yr estyniad presennol a hynny’n groes i’r hyn a fwriadwyd.
Gofynnodd y Cadeirydd i Jan Tyrer gyflwyno ei sylwadau i gefnogi’r cais. Dywedodd Ms Tyrer mai un o brif amcanion y cynnig yw rhoi sylw i faterion diogelwch drwy gynyddu capasiti’r orsaf betrol i ddarparu tanwydd ac i ddarparu lle ar gyfer cerbydau sy’n disgwyl. Drwy ddymchwel yr adeiladau cyfredol y tu cefn i’r safle a chodi uned adwerthu newydd yn ardal yr iard, byddid yn gwneud i ffwrdd â’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r gweithdy yn yr ardal honno, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 395 KB 11.1 36C63H – Rhos Annedd, Rhostrehwfa
11.2 38C149B – Llanddygfael Hir, Llanfechell Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 36C63H – Cais llawn i godi garej yn Rhos Annedd, Rhostrehwfa
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog o’r Awdurdod. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r mater allweddol yw a fyddai’r garej arfaethedig yn cael effaith ai peidio ar eiddo cyfagos. Ym marn y Swyddog, ni fyddai’r cynllun yn cael unrhyw effaith niweidiol ar unrhyw eiddo cyfagos i’r graddau y byddai hynny’n cyfiawnhau ei wrthod. Roedd yr argymhelliad felly yn un i gymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 38C149B – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir yn Llanddygfael Hir, Llanfechell
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog o’r Awdurdod. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r materion allweddol yw egwyddor y datblygiad o ran y polisïau cynllunio perthnasol sy’n ymwneud â chodi anheddau newydd yn lle hen rai ac ystyriaethau tirwedd o ran yr Ardal Dirwedd Arbennig. Daeth y Swyddog i’r casgliad fod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio gyda’r darpariaethau yn y polisi sy’n ymwneud â chodi anheddau newydd yn lle hen a’r ystyriaeth o ran y dirwedd ac ystyrir ei fod yn dderbyniol. Petai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais, ni fydd y caniatâd cynllunio’n cael ei gyhoeddi hyd oni fydd yr arolwg ystlumod wedi cael ei gynnal. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ddirprwyo’r awdurdod i’r Swyddogion ddelio gyda’r mater hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ei fod ef, fel Aelod Lleol, yn cefnogi’r cais a chynigiodd ei gymeradwyo. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig a dirprwyo awdurdod i Swyddogion ddelio ag unrhyw faterion allai godi o ganlyniad i’r arolwg ystlumod. |
|
12.1 11C617 – DP Welding, Uned 1, Safle 3, Stâd Ddiwydiannol Amlwch, Amlwch
12.2 12LPA1003/FR/CC - Castell Biwmares, Biwmares
12.3 15C116F – 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
12.4 15C212 – Tyddyn Cook, Hermon
12.5 20LPA962B/FR/CC – Traeth Gogledd Cemaes, Cemaes
12.6 28C12D – Broadsands, Belan, Rhosneigr
12.7 28C497 – Queen’s Head, Ty Croes
12.8 34LPA1006/CC – Fflatiau Glan Cefni, Llangefni
12.9 36C336 – Ffordd Meillion, Llangristiolus
12.10 39LPA1007/CC – Fflatiau Maes y Coed, Menai Bridge
12.11 45C89A – Rhos yr Eithin, Niwbwrch Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 11C617 – Cais llawn i newid defnydd llecyn gwag i greu lle storio ar dir yn D P Welding, Uned 1, Safle 3, Parc Busnes Amlwch, Amlwch
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 12LPA1003/FR/CC – Cais llawn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn cynnwys adeiladu wal amddiffyn llifogydd eilaidd ac arni wyneb o garreg ar hyd rhan ddwyreiniol y Grîn, cynyddu uchder y wal fôr bresennol a’r caergawell diogelwch rhwng Pont Townsend a Phenrhyn Safnas ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiedig ynghyd ag adeiladu bwnd pridd ar Castle Meadow ar ochr ogleddol Castell Biwmares, Biwmares.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir y mae’n berchen arno.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod tair prif elfen i’r cynnig. Y mater allweddol yw effaith y cynnig ar y derbynyddion treftadaeth yn yr ardal o gymharu â’r budd i’r cyhoedd yn sgil gostwng y perygl o lifogydd. Cyflwynwyd asesiad o’r effaith ar dreftadaeth gyda’r cais ac ymgynghorwyd yn eang gyda’r cyrff cyhoeddus statudol a Chyngor Tref Biwmares. Er bod y cyrff statudol, yn arbennig felly CADW ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, wedi codi nifer o faterion mewn perthynas ag effeithiau posib y cynllun, ni chyflwynwyd unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor ganddynt a dim ond un llythyr gwrthwynebu a gafwyd yn gyffredinol. Mae Cyngor Tref Biwmares wedi cadarnhau ei fod yn argymell cymeradwyo’r cais. Wrth bwyso a mesur y budd i’r cyhoedd yn sgil gostwng y perygl o lifogydd yn yr ardal a lleihau’r risg i’r asedau treftadaeth eu hunain, a chan gydbwyso hynny yn erbyn yr angen i gadw lleoliad yr asedau hynny mewn cof, roedd y Swyddog yn credu bod modd lleddfu unrhyw effeithiau a fyddai’n codi o’r datblygiad. Yr argymhelliad felly oedd cymeradwyo’r cais.
Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn cefnogi’r cais o gofio bod y dref yn agored i effeithiau llifogydd ac, er bod Biwmares yn Safle Treftadaeth Byd ac yn dibynnu ar dwristiaeth, roedd yn fodlon y byddai’r cyrff cyhoeddus statudol yn cadw llygad ar y datblygiad. Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Griffith.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 15C116F – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn ynghyd â chodi garej yn 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod wedi ei alw i mewn gan Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r mater allweddol ydi a yw’r datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio gyda darpariaethau ym mholisïau’r Cyngor ar gyfer addasiadau gwledig. Cafodd cais tebyg ei wrthod gan y Pwyllgor ym mis Mai 2014. Mae maen prawf iii ym Mholisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP8 y Cynllun Datblygu Unedol a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 12C431C/LB – Gwynfa, Biwmares
13.2 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 12C431C/LB - Caniatâd adeilad rhestredig i osod drysau Ffrengig yn lle’r ffenestri presennol yn Gwynfa, Biwmares.
Cafodd y cais ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 2 Gorffennaf. Roedd yr Aelodau wedi argymell caniatáu’r cais Adeilad Rhestredig a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais wedi cael ei anfon ymlaen i CADW i’w ystyried a’i fod wedi ei ganiatáu ond bod CADW hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r ffordd y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor ac yn benodol y graddau yr oedd y Cyngor wedi ystyried addasrwydd y cynnig yn erbyn polisi a chyfarwyddyd wrth ddod i’w benderfyniad. O ganlyniad, dywedodd y Swyddog y bydd adroddiadau i’r Pwyllgor ar geisiadau Adeiladau Rhestredig yn y dyfodol yn cyfeirio at anghenion Deddf Adeilad Rhestredig ac Ardal Gadwraeth 1990.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.
13.2 22C40A – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a’r garej, a chodi annedd a garej a stablau yn ei lle a gosod gwaith trin carthffosiaeth a gwneud gwaith altro i’r fynedfa i gerbydau yn Cae Maes Mawr, Llanddona
Hysbyswyd y Pwyllgor fod apêl wedi ei chyflwyno i’r Arolygaeth Gynllunio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 2 Gorffennaf i wrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth. |